Dewislen
English
Cysylltwch

Mae Iola Ynyr yn awdur ac yn hwylusydd creadigol. Yn 2025, enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn gyda’i chyfrol, Camu (Y Lolfa). Mae’r astudiaeth achos hon yn gyfweliad a gynhaliwyd gyda hi ym mis Chwefror 2026. Roedden am ddysgu rhagor am ei gwaith a’r modd y mae gweithio gydag unigolion a chymunedau yn dylanwadu ar ei ymarfer creadigol, ac os yw ei ymarfer creadigol yn dylanwadu ar ei gwaith cyfranogol. 

 

Rho gyflwyniad byr amdanat ti dy hunan a dy waith

Rydw i’n awdures sydd hefyd yn hwyluso gweithdai creadigol i annog unigolion a chymunedau i hyrwyddo eu llesiant trwy ysgrifennu a dychmygu. Fy mwriad yw creu gofod diogel i drafod a datblygu syniadau heb gywilydd gan annog meddylfryd y gallwn ni ddychmygu byd gofalgar i ni’n hunain ac eraill.

Mae fy ngwaith ysgrifennu yn ymchwilio at gyflwyno naratif sydd yn ysbrydoli unigolion i ymddiried yn eu greddf ac i adlewyrchu ar brydferthwch a rhyfeddod y byd hyd yn oed mewn cyfnodau heriol a thywyll.

 

Pryd ddechreuest ti fod â diddordeb mewn sgwennu creadigol?

Rydw i wedi mwynhau ysgrifennu a dychmygu’n greadigol ers yn blentyn ond mae hi wedi cymryd tan fy mhumdegau, a dod i adferiad o fy alcoholiaeth, i ymddiried fod gen i rywbeth gwerth ei ddweud i’w rannu yn gyhoeddus ac agored.

Dwi wedi cadw dyddiadur yn gyson trwy fy mywyd a chwarae hefo syniadau ers fy arddegau ond mynychu cyrsiau yn Nhŷ Newydd oedd y symbyliad i gamu yn fy mlaen i ffurfioli’r syniadau hyn.

Mae darllen wedi fy ysbrydoli gymaint trwy gydol fy mywyd a nghynnal i felly, gyda chyhoeddiad fy hunangofiant yn 2024, roedd hi’n anrhydedd gallu cyfrannu mewn ffordd fach at gynnyrch diwylliant llenyddol a hynny yn y Gymraeg.

Dwi’n argyhoeddedig fod yna gymaint mwy o awduron sydd â straeon gwerthfawr i’w rhannu ond sydd ar ymylon cymdeithas ac heb gael hyder i’w lleisio. Mae ceisio darganfod yr unigolion a’u harfogi gyda’r ffydd y gallan nhw ddarllen eu gwaith neu drafod eu syniadau ar lafar yn greiddiol i ngwaith fel hwylusydd creadigol.

 

A elli di drafod rhywfaint am y berthynas rhwng bod yn hwylusydd creadigol a sgwennu dy lên dy hunan? Ydi’r ddau beth yn cyfoethogi ei gilydd? Oedd un wedi arwain at y llall?

Mae cynnal sesiynau creadigol fel hwylusydd, yn arbennig gyda chyfranogwyr bregus, yn fy atgoffa fi o’r dewrder sydd ei angen i fynegi ein syniadau ar bapur. Mi fydda’ i yn cael fy ysbrydoli gan wytnwch, gan ddelweddau a pharodrwydd unigolion i fentro er gwaethaf eu hansicrwydd ac ar fy union, mi ydw i hefyd ar dân wedyn i chwarae hefo syniadau.

Does ‘na ddim byd gwell na gwrando ar brofiadau eraill a’u hymatebion i’r byd fel symbyliad i ystyried fy mhrofiadau fy hun.

I mi, mae unrhyw sesiwn dwi’n ei hwyluso yn gyfle i chwarae ac ymgolli yn y foment yn union fel y gwna plant ac yn ffynhonnell amhrisiadwy i deimlo’n well amdanaf i fy hun, fy nghreadigrwydd a fy nghyswllt gyda’r byd. Tra dwi hefyd yn sicrhau llesiant y cyfranogwyr, dwi’n cael maeth creadigol anhygoel fy hun.

Ers ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2025, dwi wedi cael mwy o gyfleon i ddefnyddio fy ngwaith llenyddol fy hun fel symbyliad i annog creadigrwydd i eraill. Mae hwn yn ffordd newydd i mi weithio, ac er ei fod yn fwy dieithr i mi, mae’n aml yn caniatáu i gyfranogwyr fentro i feysydd bregus ynddyn nhw eu hunain ac i ryddhau syniadau sydd yn aml wedi cael eu mygu.

Mae gwneud y gwaith cyfranogol yn ddiogel a gyda gofal yn bwysicach nag erioed i mi a dwi erbyn hyn wedi meistroli yr angen i adlewyrchu yn gyson ar fy llesiant fy hun.

Y gwaith cyfranogol ddaeth gyntaf i mi a mwyaf naturiol mae’n debyg, ond lleisiau y cyfranogwyr a’u dawn dweud hefyd ysbrydolodd fi i fwrw iddi i rannu fy ngwaith.

Dwi’n mwynhau hefyd mynychu sesiynau creadigol fel cyfranogydd ac yn deall y budd aruthrol sydd yn dod o gael fy nal mewn gofod diogel a chreadigol.

 

Pryd wnes di ddechrau meddwl am dy hunan fel “awdur”?

Mi alwes fy hun yn ‘awdur’ am y tro cyntaf wrth gael gwneud fy ewinedd cyn dechrau am noson wobrwyo Llyfr y Flwyddyn.

Rydw i wedi ysgrifennu pennod ar hyn yn fy nghyfrol newydd Codi Hwyliau gaiff ei chyhoeddi dros yr haf eleni [2026]. Roedd y ddynes oedd yn trin fy ‘ngwinedd newydd rannu ei hanes yn teithio o Fietnam i Gymru i ddilyn ei uchelgais o dorri’n rhydd o bwysau cymdeithasol ei chymuned i ofalu am deulu ei gŵr a’i hawydd i brofi mwy ar y byd. Ei rhannu hi wnaeth fy ysbrydoli i ystyried sut hoffwn i gael fy ‘ngweld’ gan eraill. Roedd hyn yn drobwynt i mi ac yn brawf fy mod i’n cymryd fy ysgrifennu o ddifri.

Wrth edrych yn ôl, efallai fod hyn yn fwy arwyddocaol na ennill y wobr ei hun er mor aruthrol o felys oedd hynny hefyd!

 

Sut ddois di i wybod am Llenyddiaeth Cymru a’r gefnogaeth y maent yn ei gynnig i awduron?

Mi ddois i ar gwrs ysgrifennu dros 25 mlynedd yn ôl yn Nhŷ Newydd a thrwy hynny ddois i adnabod Llenyddiaeth Cymru. Dwi dal i ystyried y sefydliad fel y profiad cyntaf hwnnw o gynnig noddfa i awduron ffynnu a hynny gan staff brwdfrydig a chefnogol.

Ers yr ymweliad cyntaf hwnnw, dwi wedi dychwelyd ar gyrsiau o bob math ac wedi derbyn cefnogaeth i ddatblygu fy ymarfer fel hwylusydd creadigol ac awdur.

 

Rho amlinelliad o sut wyt ti wedi gweithio gyda Llenyddiaeth Cymru, a dylanwad y gwaith hwnnw ar dy waith a’th yrfa.

Rydw i wedi cael hyfforddiant fel hwylusydd, wedi cynnig hyfforddiant a mentora eraill ac wedi dychmygu cynlluniau trwy raglenni amrywiol. Daeth Ar y dibyn, prosiect creadigol yn y Gymraeg i unigolion wedi eu heffeithio gan ddibyniaeth, i fodolaeth trwy nawdd Llên er Lles saith mlynedd yn ôl a fyddai dim o’r llwyddiant hwnnw wedi dod heb yr ysgogiad gwreiddiol hwnnw yn galw am syniadau.

Mi ges i arwain prosiect Gwledda ar y cyd gyda WWF a Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru mewn partneriaeth gyda’r ysgol yn Rhosgadfan, GwyrddNi a Chanolfan Cae’r Gors. Mi dyfodd y prosiect o fod yn edrych ar ardd lysiau yr ysgol am ysbrydoliaeth ynghyd â gwaith Kate Roberts i blannu coed ar dir yr ysgol. Yn ddiweddarach, roedd yna gymuned yn ystyried clogyn Kate Roberts fel symbyliad i ymchwilio ein cyswllt hefo’r tir a arweiniodd at greu cerflun pren o glogyn o flaen Cae’r Cors gyda geiriau y cyfranogwyr arno.

Roedd mentora yn broses euraid i adlewyrchu ar sut mae creu gofodau diogel sydd yn cynnig hynny yn ymarferol yn hytrach na mewn gosodiad geiriol yn unig yn bleser. Dwi’n amau i mi elwa mwy na rhai oedd yn derbyn mentora a hynny gyda llenorion rydw i’n eu parchu yn enfawr megis Casia Wiliam, Meleri Prysor, Grug Muse ac Elinor Wyn Reynolds.

Roedd cynnal hyfforddiant dros benwythnos ar y cyd hefo clare potter yn Nhŷ Newydd yn anrhydedd ac i gyflwyno hyder i gyfranogwyr fentro trwy ryddiaith a barddoniaeth i leisio eu gwir gweledigaeth o’r byd.

Mi ges i gyfarfod criw o ferched dewr a thalentog ar gwrs undydd ar rannu ein straeon wedi ei seilio ar fy nghyfrol Camu. Dwi’n hyderus y bydd yna lyfrau lu yn deillio o’r syniadau hyn ac yn falch ofnadwy o’r cyfle i annog eraill ar y daith honno.

Mae yna feddylfryd dwi’n ei gysylltu â gweledigaeth Llenyddiaeth Cymru sef un o gefnogaeth gofalgar, dyfalbarhad a dewrder i fentro cofnodi, trwy lyfrau, y pleser a’r ing sy’n deillio o fyw. Does yna ddim ‘easy-fix’ yn cael ei gynnig ond ffydd bod gwireddu yr awch i ysgrifennu yn un sydd werth ei dilyn a bod ganddo ni gyd hawl i ddychmygu’r map at gyrraedd y broses hynny trwy gefnogaeth.

 

A oes unrhyw brosiectau neu waith penodol y mae’r gefnogaeth gan Llenyddiaeth Cymru wedi cael effaith uniongyrchol arnyn nhw?

Mae’r hyfforddiant ar ddiogelwch dderbyniais i gan Llenyddiaeth Cymru wastad wedi fy nghefnogi i gofio grym llenydda o bob math i chwalu anghyfartaledd, rhagfarn a phoen a’i gymryd o ddifri i gynnig balm i gyfoethogi pob agwedd ar fywyd.

Rydw i wedi cael eistedd ar baneli dewis mewn cynlluniau fel Cynrychioli Cymru a ‘Sgwennu’n Well sydd wedi nghyflwyno fi i awduron amlwg a i ddarpar awduron anhygoel.

Mae pob aelod o staff dwi wedi cael cyswllt â nhw o’r sefydliad wedi bod yn gwbl ymroddedig, gofalgar a wedi fy argyhoeddi i ddychmygu mwy i fy hun fel hwylusydd creadigol ac awdur. Pan rydw i wedi wynebu heriau, yn arbennig o safbwynt materion sensitif a diogelwch, mae yna arweiniad doeth a chwbl broffesiynol wedi ei gynnig sydd eto’n caniatáu datblygu gwaith o bwys yn lenyddol a chymunedol.

 

Ym mha ffyrdd, os o gwbl, y mae Llenyddiaeth Cymru wedi dy helpu i ddatblygu dy yrfa neu amlygrwydd fel awdur?

Trwy gefnogaeth staff a nawdd Llenyddiaeth Cymru, rydw i wedi gallu mentro o rôl fel hwylusydd creadigol i fod yn awdur a hynny mewn modd tawel a gofalgar trwy anogaeth. Mae yna ryw lwybr euraid wedi ei gynnig i mi, bron heb i mi fod yn ymwybodol, i wireddu fy uchelgais o fod yn awdur.

Mae ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi agor fy nghysylltiadau yn ddi-ben-draw o ran mynychu gwyliau llenyddol, cyfarfod cylchoedd llenyddol ond hefyd o ran gweisg, siopau llyfrau a darllenwyr eu hunain.

O ran fy ngwaith fel hwylusydd creadigol, rwyf wedi cael cyswllt yn arbennig gyda sefydliadau amlwg o safbwynt newid hinsawdd a materion amgylcheddol. Mae’r gallu hwn i gydweithio a rhannu ymarfer da yn allweddol i’r broses o dwf personol, o fewn y gymuned greadigol ac ar lawr gwlad.

Yn ddiweddar, cefais fy ngwahodd i gyfrannu at gyfrol o farddoniaeth Chronic Women / Menywod Cronig, yn deillio o brosiect dan arweinyddiaeth Hanan Issa a Gwyneth Lewis, a fyddwn i erioed wedi dychmygu y gallwn i greu cerdd i’w chynnwys gyda gwaith beirdd cyfoes amlycaf Cymru. Roedd yn gyfle gwbl annisgwyl ond dyma yw cryfder Llenyddiaeth Cymru i mi; y gallu i dywys awduron yn araf bach neu gyda chefnogaeth sydd yn gwneud y broses o fentro deimlo’n ddiogel a naturiol.

 

Sut wyt ti’n gweld dy berthynas â Llenyddiaeth Cymru yn esblygu yn y dyfodol?

Mi fyddwn i wrth y modd yn cyfrannu mewn unrhyw ffordd posibl at sbarduno gwaith newydd dewr yn gymunedol a llenyddol yn arbennig gyda lleisiau merched yn y Gymraeg.  Mae yna gymaint o dabŵs eto yn perthyn i brofiadau sy’n deillio o fod yn ferch sydd heb gael eu lleisio yn gwbl rhydd.

Mae’r baich o fod yn ferch sydd yn ‘cynnal’ yr iaith Gymraeg hefyd yn ddiddorol i mi a’r modd mae’r iaith yn gallu hawlio mwy o sylw nag ein llesiant personol.

Dwi’n angerddol hefyd am leisio a hwyluso mynegiant unigolion a chymunedau ar ymylon cymdeithas sydd yn aml yn datgan profiadau anodd eu clywed. Mae’r cysyniad o ‘gywilydd’ yn un sydd yn fy niddori a sut mae ymateb yn awthentig i ddylanwadau cymdeithasol a diwylliannol sydd wedi ein rhwystro rhag mynegi gwirionedd ein profiadau.

Mae gen i ffydd y gallwn ni, trwy dynerwch, adlewyrchu trwy bob math o lenyddiaeth a gweithgarwch creadigol ar yr harddwch sy’n deillio o heriau bywyd. Rydym ni angen straeon a llenyddiaeth all ein hysbrydoli ni yn ddistaw bach i wybod fod twf a ffydd yn deillio o gyswllt nid o’n gwahaniaethau. I gofio ein awch dwfn i berthyn i rym creadigol cariad sydd yn llechu yng nghalon pob sinig sydd wedi gorfod caledu a chwerwi i drio amddiffyn ei hun a bod yna gymundod gwell trwy greadigrwydd.

Nôl i Astudiaethau Achos