Dewislen
English
Cysylltwch

Prosiect Llenyddol yn Sbardun i Ail-agor Cyn Gartref Kate Roberts

Cyhoeddwyd Llu 22 Ebr 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Prosiect Llenyddol yn Sbardun i Ail-agor Cyn Gartref Kate Roberts
Mae ymgyrch ar droed yn Rhosgadfan i ail agor Cae’r Gors, cartref plentyndod un o awduron enwocaf Cymru, Kate Roberts, wedi i’r Ganolfan Dreftadaeth gau ei drysau dros dro ers cyn cyfnodau clo Covid.

Cafodd y tŷ ei ddefnyddio’n ddiweddar fel lleoliad ar gyfer un o’n prosiectau Llên mewn Lle, sydd yn archwilio’r argyfwng hinsawdd a natur trwy lenyddiaeth. Caiff Llên mewn Lle ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth gan WWF Cymru.

Enw’r prosiect sy’n cael ei gynnal yn Rhosgadfan yw Gwledda. Mae Gwledda wedi ei ddyfeisio a’i arwain gan yr hwylusydd ac artist llawrydd, Iola Ynyr. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r prosiect wedi arwain at nifer o weithgareddau gwerthfawr, megis plannu dros 20 o goed ar dir Ysgol Rhosgadfan gyda chefnogaeth Ymddiriedolaethau Natur Gogledd Cymru; mae’r cyfranogwyr wedi dysgu am y gylchred carbon gyda GwyrddNi; mae tai pryfaid wedi eu hadeiladu, teithiau cerdded wedi eu cynnal, ac mae cerddi a darnau o ryddiaith wedi eu hysgrifennu a’u rhannu. Nod y prosiect yw cynyddu hunan-werth yr unigolion sy’n cymryd rhan, cynyddu hyder i gymryd risgiau creadigol, a hyrwyddo llesiant sydd wedi ei wreiddio yn y tir.

Yn goron ar y cyfan, mae’r gweithdai wedi bod yn sbardun i ymgyrch i ail-agor Cae’r Gors i’r gymuned. Y nod yw y bydd Cae’r Gors yn cael ei defnyddio fel canolfan gymunedol, ac yn leoliad y gall cymuned Rhosgadfan ei pherchnogi. Mae’r Cynghorydd Arwyn Herald wedi arwain yr ymgyrch, ac erbyn hyn mae’r Bwrdd o Ymddiriedolwyr yn edrych ymlaen at bennu camau nesaf y bwthyn arbennig hwn.

Ar ddydd Sadwrn 23 Mawrth cynhaliwyd digwyddiad i ddathlu’r prosiect lle daeth aelodau o’r gymuned ynghyd i weld cerflun arbennig o glogyn brethyn Kate Roberts yn cael ei dadorchuddio. Gwaith yr artist Simon O’Rourke yw’r cerflun, sydd wedi ei greu o bren wedi ei adfer, ac arno eiriau y mae aelodau’r gymuned wedi eu awgrymu yn dilyn prosiect Gwledda.

Dywedodd y Cynghorydd Arwyn Herald: “Llongyfarchiadau i’r criw sydd wedi bod yn brysur ar gynllun Gwledda yng Nghae’r Cors, Rhosgadfan o dan adain Llenyddiaeth Cymru. Braf gweld ffrwyth eu gwaith yno yn cael ei ddadorchuddio ar y safle yn diweddar yng nghwmni plant y pentre a’r criw a gymerodd ran yn y cynllun. Mae cynllun o’i fath yn hanfodol o bwysig i hybu llenyddiaeth ein bro i’r genhedlaeth i ddod.”

Dywedodd Iola Ynyr “Mae’r cerflun yn gofnod hardd o brosiect Gwledda, yn cyfleu’r gymuned y llwyddwyd i’w chreu trwy greadigrwydd. Mae’n dathlu sut y gall cysylltu gyda’r tir rymuso ein llesiant a chyflwyno ein milltir sgwâr mewn goleuni newydd.”

Mae Llên mewn Lle yn cynnig nawdd i awduron a hwyluswyr i greu, sefydlu, a chyflawni gweithgaredd yn eu cymuned leol. Mae’r prosiect yn anelu i gyfrannu at drafodaethau ehangach ar ddatrysiadau ymarferol ar gyfer effeithiau niweidiol yr argyfwng natur a hinsawdd. Yn 2022-2023, derbyniodd tri prosiect gefnogaeth. Yn ogystal â Gwledda, mae Ffrwyth ein Tân, dan ofal Siôn Tomos Owen yn Nhreherbert a The LUMIN Syllabus dan ofal Sadia Pineda Hameed a Beau W Beakhouse yn Abertawe.

Dywedodd Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru, “Diolch i gymuned Rhosgadfan am eu croeso cynnes dros y misoedd diwethaf. Mae aelodau o’r gymuned – yn blant, rhieni, a thu hwnt – wedi dangos creadigrwydd a dewrder yn trafod effeithiau brawychus yr argyfwng hinsawdd a heriau cyffredinol bywyd drwy ysgrifennu o’r galon am eu profiadau. Diolch hefyd i Iola am ei gweledigaeth. Braf cael gweld prosiect ysgrifennu yn cyflwyno elfennau mor amrywiol â phlannu coed a choginio lobsgóws, a thrwy hynny’n llwyddo dod â phobol a phrofiadau ynghyd.”

Yn Ebrill 2024, bydd dwy gymuned ychwanegol yng Nghymru yn cael eu cefnogi i archwilio a deall eu eco-system lleol. Byddwn yn rhyddhau manylion am y prosiectau a gynhelir yn ardaloedd Bethesda a Thyddewi maes o law.