Mae llefydd fel Tŷ Newydd yn amhrisiadwy i bobl sy’n mwynhau sgrifennu fel fi. Mynd yno ar gwrs sgriptio wnes i gydag Aled Jones Williams a Sarah Bickerton. Roedd cael cyfle i gymysgu gyda phobol debyg a bwrw syniadau ar bapur mewn lleoliad mor fendigedig yn werth y wâc o Bencarreg. I mi trwy ryw ryfedd wyrth, llwyddodd yr egin syniad a gefais yn Nhŷ Newydd i dyfu yn sgript lwyddodd i gipio’r Fedal Ddrama eleni. Rwy’n athrawes ers nifer o flynyddoedd bellach ond roedd cael bod yn sgidiau’r disgybl yn bwysig ofnadwy yn y broses greu. Mae Tŷ Newydd yn rhoi cyfle i awduron hen a newydd i rannu’r un bwrdd. Rwy’n ddiolchgar iawn am hynny.
– Heiddwen Tomos, Prif Ddramodydd Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017.
Mae gen i goblyn o ddyled i Harri Pritchard Jones gan iddo, ar y cwrs cyntaf nes i fynychu yn Nhŷ Newydd, fy nghymryd o ddifri fel sgwennwr. Dyna a wnaeth i minnau gymryd fy sgwennu o ddifri. Hyd yn oed rŵan, ddegawdau’n ddiweddarach, os dw i’n dechra amau fy hun mae dychmygu gwyneb Harri PJ yn help. Fyswn i wedi meiddio dangos fy ngwaith iddo petawn i heb ddod i Dŷ Newydd? Na fyswn siŵr. Mi oeddwn i mor ddihyder go brin y byswn i wedi dod i Dŷ Newydd petawn i heb ennill y cwrs cyntaf hwnnw mewn cystadleuaeth.
Bellach dw i’n ennill fy mywoliaeth trwy sgwennu, dw i wedi gweithio yn Nhŷ Newydd mewn swydd weinyddol a dw i hyd yn oed wedi tiwtora yno. Dw i wedi gweld dro ar ôl tro yr hyn sy’n gallu digwydd mewn lle sydd yn bodoli yn unswydd ar gyfer helpu sgwennwyr – lle y mae pawb, nid yn unig y tiwtoriaid ond y staff gweinyddol, y cogydd, pawb, yn deall mai sgwennu sydd yn bwysig yn ystod yr wythnos neu’r penwythnos hwnnw.
– Sian Northey, Awdur ac Ymarferydd Creadigol
Deuthum ar draws hysbyseb ar gyfer cwrs cynganeddu Tŷ Newydd 2016 ar y we chwe mis ar ôl graddio, pan oeddwn i’n gweithio yn Llundain. Ymddangosodd y cwrs cynganeddu fel cyfle i ailgynnau fy fflam greadigol a fy niddordeb mewn barddoniaeth, a hefyd fel cyfle i ddychwelyd i Gymru a’r Gymraeg.
Cyrhaeddais Dŷ Newydd heb allu ysgrifennu cymaint â’r gynghanedd lusg symlaf, a heb gael cyfle i siarad fawr o Gymraeg ers symud i Loegr yn 2011, a gadewais wedi ysgrifennu cywydd ddeuddeg llinell ac englyn, wedi ymdrochi’n llwyr mewn byd barddoniaeth Cymraeg ac yn benderfynol o ddychwelyd i Gymru cyn gynted â phosib.
Blwyddyn yn ddiweddarach ac rwy hanner ffordd drwy M.A. Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd ym Mhrifysgol Caerdydd. [darllen mwy]
– Judith Musker Turner
Clywais am Dŷ Newydd gan ddwy ffrind a fu yno y llynedd. Roedd y ddwy’n frwdfrydig iawn am eu profiad, ac yn fy annog i wneud cwrs ysgrifennu creadigol yno. Felly, penderfynais roi cynnig ar wneud gwaith creadigol yn y Gymraeg (a dianc o’r brifddinas am benwythnos!).
Bu’r ysgoloriaeth yn gymorth hynod o bwysig i mi allu gwneud y cwrs yn Nhŷ Newydd. Gallaf ddweud mai yn Nhŷ Newydd y des i o hyd i awyrgylch delfrydol i wneud gwaith creadigol. A buaswn i’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn ysgrifennu i dreulio amser yno.
Y peth gorau i mi, yn bersonol, oedd mai yn ystod y penwythnos hwnnw y llwyddais i ysgrifennu cerdd a ddaeth yn fuddugol yn Eisteddfod Trevelin eleni ac ennill cadair am y tro cyntaf erioed. Y tro nesaf hoffwn wneud cwrs hirach, er mwyn cael cyfle i ddatblygu syniadau a chael hyfforddiant dyfnach.
– Sara Borda Green, Prifardd Eisteddfod Trevelin 2017