Dewislen
English
Cysylltwch

Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd 

Tŷ Newydd yw Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru. Ers agor ein drysau yn 1990, mae miloedd o awduron wedi camu dros drothwy ein drws gwyrddlas eiconig.

Mae Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn cynnig ymdrochiad llwyr – gyda gweithdai, darlleniadau a chyfarfodydd un-i-un gyda tiwtoriaid yn dechrau ben bore ac yn parhau gyda’r nos. Gyda’n cyrsiau preswyl mi gewch fwynhau pob agwedd o brofiad Tŷ Newydd. I ambell un, cael treulio amser yn llyfrgell glyd Tŷ Newydd tan yr oriau mân yn trafod barddoniaeth sy’n gwneud ei profiadau yn arbennig. I eraill, cael codi gyda’r wawr i fynd am dro i lan y môr sy’n aros yn y cof. Beth bynnag fo’ch profiadau, byddwch yn gadael y ganolfan gyda’r sgiliau, syniadau, a’r egni i barhau gyda’ch gwaith ysgrifennu.

Ers 1990 mae beirdd ac awduron wedi bod ymweld â Tŷ Newydd i ddatblygu eu crefft ysgrifennu creadigol. Mae llwyddiannau rhai sydd wedi mynychu ein cyrsiau diweddar yn amlwg mewn ymatebion i’n holiaduron. Ond, mi all gymryd blynyddoedd, neu hyd yn oed ddegawdau i ysgrifennu llyfrau a datblygu fel awdur.

Dyma gasgliad o dystlythyrau diweddar gan ein gwesteion, sy’n dangos fod eu hamser yma wedi cael effaith ar eu gwaith fel awdur. Mae’r geirdaon yn eu hiaith wreiddiol. I ddarllen tystlythyrau sydd wedi eu rhoi drwy gyfrwng y Saesneg, cliciwch yma.