Recriwtio i’r Bwrdd Rheoli
Mae Llenyddiaeth Cymru yn cael ei lywodraethu gan Fwrdd Rheoli Ymddiriedolwyr. Mae’r Bwrdd yn cyfarfod yn ffurfiol bedair gwaith y flwyddyn ac yn cyfrannu at ddatblygiad strategol pellach fel rhan o weithgorau. Mae ein Bwrdd yn atebol i gyfraith elusennol ac yn sicrhau ein bod yn gweithredu yn unol â’n hamcanion elusennol a’n Cynllun Strategol 2022-27 ehangach, a bod ein cyllid a’n hadnoddau yn cael eu rheoli’n effeithiol.
Mae Ymddiriedolwyr y Bwrdd yn cynrychioli ystod eang o gefndiroedd, sgiliau a phrofiadau ac yn dod o sawl sector amrywiol, gan gynnwys awduron ac ymarferwyr creadigol, ymgynghorwyr a thrafnidiaeth, y byd academaidd ac addysg.
Mae Ymddiriedolwyr yn gwasanaethu ar y Bwrdd Rheoli fel unigolion annibynnol; nid ydynt yn cynrychioli buddiannau’r sefydliadau neu’r sectorau y maent yn gweithio ynddynt. Mae Ymddiriedolwyr yn gwasanaethu am dymor o dair blynedd i ddechrau, gydag opsiwn i wneud cais am estyniad am dair blynedd ychwanegol.
Ar hyn o bryd mae gan Fwrdd Rheoli Ymddiriedolwyr Llenyddiaeth Cymru 11 aelod. Mae gennym ddiddordeb mewn recriwtio Ymddiriedolwyr o amrywiaeth o gefndiroedd a gydag ystod o sgiliau gwahanol i’w cynnig. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais i ymuno â’n Bwrdd, cysylltwch ag Ysgrifennydd y Cwmni, Alys Lewin (alys@llenyddiaethcymru.org) am sgwrs anffurfiol. Gallwch weld mwy am y rôl a’r cyfrifoldebau yn y pecyn isod.