Dewislen
English
Cysylltwch

Bwrdd Ymddiriedolwyr

Steve Dimmick
Cadeirydd
Mwy
Casi Dylan
Dirprwy Gadeirydd
Mwy
Nasir Adam
Ymddiriedolwr
Mwy
Joanne Doyle
Ymddiriedolwr
Mwy
Margiad Eckstein
Ymddiriedolwr // Cyfarwyddwr gyda gofal dros Ddiogelu
Mwy
Mohamed Hassan
Ymddiriedolwr
Mwy
Asma Khan
Ymddiriedolwr
Mwy
Sioned Wiliam
Ymddiriedolwr
Mwy
Charlotte Williams
Ymddiriedolwr // Cadeirydd yr Is-bwyllgor Risg
Mwy
Martin Willis
Ymddiriedolwr
Mwy
Glyn Tansley
Ymddiriedolwr
Mwy
Steve Dimmick
Cadeirydd

Mae Steve Dimmick yn fachgen o Blaina. Ei dad, sefydlydd Poems and Pints ym Mlaenau Gwent, wnaeth ysbydoli ei gariad at eiriau. Mae Steve yn rhedeg clwb llyfrau CardiffRead, clwb darllen a thrafod mwyaf hirhoedlog y ddinas. Yn rhinwedd y rôl hon mae wedi croesawu pobl fel Manon Steffan Ros, Chris Power, Owen Sheers, Belinda Bauer, Lemn Sissay a llawer mwy trwy ddrysau Llyfrgell Treganna. O ddydd i ddydd, mae’n dad i dri o blant, ac yn eistedd fel Rhiant-Lywodraethwr yn Ysgol Plasmawr. Mae Steve hefyd wedi bod yn Ymddiriedolwr gyda National Theatre Wales, gan eu helpu i drosglwyddo i Welsh National Theatre dan arweiniad Michael Sheen, yn dilyn colli cefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru i NTW.

Ac yntau’n hoff o ieithoedd, cyrhaeddodd Steve rownd derfynol Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn yn 2018. Fel Cyfarwyddwr Masnachol Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, cylch gwaith Steve yw Gwneud Bywydau Pobl yn Well; rhywbeth y mae’n gobeithio ei gyflawni fel Ymddiriedolwr gyda Llenyddiaeth Cymru.

Cau
Casi Dylan
Dirprwy Gadeirydd

Magwyd Casi Dylan yng Ngheredigion ac mae hi’n byw a bod bellach yn Glasgow. Mae profiad eang ganddi mewn meysydd sy’n croestorri llenyddiaeth, llesiant, a chyfranogaeth cymdeithasol, gan gynnwys swyddi gyda The Reader Organisation a Gŵyl Lyfrau Ryngwladol Caeredin. Erbyn hyn mae hi’n gweithio fel Rheolwr Digwyddiadau ac Ymgysylltu ym Mhrifysgol Glasgow. Mae hi’n Gydymaith gyda Cyfnewidfa Lên Cymru, ac yn ysgrifennu’n rheolaidd ar gyfer y cylchgrawn llyfrau O’r Pedwar Gwynt.

Cau
Nasir Adam
Ymddiriedolwr

Magwyd Nasir Adam yn Butetown, yn fab ac yn ŵyr i forwyr masnachol o’r Llynges. Mae Nasir yn ymgyrchydd cymunedol sy’n frwd dros gyfiawnder cymdeithasol, llenyddiaeth a threftadaeth, democratiaeth ddiwylliannol, ecwiti, cynrychiolaeth ac ymsefydliad. Astudiaethau cymdeithasol ac addysg gymunedol yw cefndir academaidd Nasir, ynghyd â datblygiad cymunedol ymarferol, sydd wedi rhoi iddo ddealltwriaeth ddofn o gymhlethdodau ac arlliw cymunedau ymylol. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio fel Curadur Hanes Pobl Dduon yn Amgueddfa Cymru.

Cau
Joanne Doyle
Ymddiriedolwr

Gydag MSc mewn dealltwriaeth gyhoeddus o wyddoniaeth, a dros 15 mlynedd o brofiad mewn cyllid amgylcheddol yn y sector cyhoeddus, mae Joanne Doyle yn cael ei hysgogi gan ddulliau systemau a all ddod â gwahanol safbwyntiau i ddylanwadu ar ddyfodol teg. Cyn gweithio yn y sector cyhoeddus, mae hi wedi treulio cyfnodau’n gweithio i sefydliadau nid er elw yn cefnogi datblygiadau sefydliadol a phartneriaethau. Mae hi’n gweld y celfyddydau fel sylfaen ar gyfer ymarfer dychymyg creadigol sy’n gallu dathlu amrywiaeth, cynhwysiant a dulliau eraill sy’n hanfodol i adeiladu dyfodol cynaliadwy. Wedi'i geni yn Iwerddon ac astudio yn Llundain, mae Joanne bellach yn byw ym Mro Morgannwg.

Cau
Margiad Eckstein
Ymddiriedolwr // Cyfarwyddwr gyda gofal dros Ddiogelu

Daw Margiad Eckstein o Gricieth, Gwynedd ac astudiodd Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ganddi brofiad helaeth o addysgu mewn amrywiaeth o leoliadau, yn fwyaf diweddar fel Pennaeth Cymorth Dysgu, gyda chyfrifoldeb neilltuol am fyfyrwyr ag anghenion ychwanegol. Mae Margiad wedi perfformio ar y gylched gomedi, mae'n aelod gweithgar o grwpiau ysgrifennu amatur, ac ers ymddeol mae wedi gwirfoddoli gyda sefydliadau sy'n cefnogi ac yn cyfeillio â ffoaduriaid a phobl sy'n chwilio am loches. Mae hi’n gefnogol iawn o’r gwaith sy’n galluogi pobl ifanc i ddod o hyd i hyder a gobaith yn eu lleisiau a'u profiadau eu hunain, trwy lenyddiaeth yn ei holl ffurfiau.

Cau
Mohamed Hassan
Ymddiriedolwr

Ganed Mohamed yn Alexandria, yr Aifft, a symudodd i Gymru am y tro cyntaf yn 2007. Astudiodd Ffotograffiaeth yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, cyn cwblhau gradd meistr mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol De Cymru. Yn fwy diweddar mae gwaith Mohamed wedi’i gynnwys mewn nifer o arddangosfeydd grŵp mawreddog, gan gynnwys: ‘Wynebu Prydain: ffotograffiaeth ddogfennol Brydeinig ers y 1960au’ wedi curadu gan Ralph Goertz (lleoliadau amrywiol ar draws Ewrop, 2021-2023), ‘Many Voices, One Nation’, wedi curadu gan Ffotogallery a’r Senedd (lleoliadau amrywiol ledled Cymru, 2019-2020), a The Taylor Wessing Portrait Prize (Oriel Bortreadau Cenedlaethol, 2018). Yn ddiweddar cafodd ei waith ei gaffael gan gasgliadau yn cynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chasgliad Celf Llywodraeth y DU.

Cau
Asma Khan
Ymddiriedolwr

Mae Asma Khan yn Gydymaith Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi’n wyddonydd cymdeithasol sy’n archwilio profiadau grwpiau lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol yn y Brydain gyfoes, gyda diddordebau ymchwil penodol mewn anghydraddoldebau yn y farchnad lafur ac iechyd meddwl. Mae Asma yn mwynhau gweithio ar brosiectau a gyd-gynhyrchwyd gyda sefydliadau trydydd sector i gynnal ymchwil sy'n helpu pobl i fyw bywydau iach, hapus a chynhyrchiol.

Cau
Sioned Wiliam
Ymddiriedolwr

Daw Sioned Wiliam yn wreiddiol o’r Barri. Hi yw awdur Dal i Fynd, Cicio’r Bar, Y Gwyliau a Chwynnu. Dechreuodd ei gyrfa yn y BBC, cyn mynd i weithio fel cynhyrchydd annibynnol ar rhaglenni fel Tonight with Jonathan Ross, Game On, Big Train a Yonderland. Fe gynhyrchodd hi iDot a Rhestr Nadolig Wil i Boom/S4C gan ennill gwobr BAFTA Plant. Fe’i henwebwyd hi am wobr BAFTA dair gwaith ac fe enillodd hi British Comedy Award a Rhosyn Efydd ym Montreux fel cynhyrchydd BIG TRAIN yn 1999. Mae hi wedi gweithio fel Comisiynydd Comedi i ITV a BBC Radio 4. Yn ddiweddar bu’n gweithio fel Prif Weithredwr (Dros Dro) S4C. Mae hi’n Gymrawd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol gyda Cwmni Da.

Cau
Charlotte Williams
Ymddiriedolwr // Cadeirydd yr Is-bwyllgor Risg

Mae Charlotte Williams OBE FLSW yn awdur ac yn feirniad academaidd a diwylliannol. Mae ei hysgrifau yn rhychwantu cyhoeddiadau academaidd, cofiant, ffuglen fer, adolygiadau, traethodau a sylwebaeth. Mae Charlotte wedi ysgrifennu dros bedwar ar ddeg o lyfrau academaidd, gyda’i chasgliad golygedig ‘A Tolerant Nation? Ethnic Diversity in a devolved Wales (2003 & 2015) yn un o’i theitlau mwyaf nodedig. Mae ei gweithiau ffeithiol greadigol yn cynnwys ei chofiant arobryn Sugar and Slate (Llyfr y Flwyddyn 2003) a ailgyhoeddwyd yn 2022 gan Parthian ar gyfer y Library of Wales Series, ac eto yn 2023 gan Penguin fel rhan o’u Black Britian Writing Back Series. Mae Charlotte yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Bangor ac mae ganddi gymrodoriaethau er Anrhydedd ym Mhrifysgol Wrecsam, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Mae’n aelod o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, yn Gyfarwyddwr anweithredol i Estyn ac yn Gynghorydd i Llywodraeth Cymru ar weithrediad Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru.

Cau
Martin Willis
Ymddiriedolwr

Mae'r Athro Martin Willis FRSA FRHistS yn academydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae wedi gweithio ym maes Addysg Uwch ers dros bum mlynedd ar hugain, drwy addysgu mewn prifysgolion ar draws yr Alban, Lloegr a Chymru. Bu’n Bennaeth yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd rhwng 2019-2024 ac yn Arweinydd Academaidd i Raglen Arweinwyr Ymchwil y Dyfodol Crwsibl Cymru, gan weithio i ysbrydoli ymchwilwyr ifanc i ganolbwyntio ar ddyfodol a ffyniant Cymru. Mae ei ymchwil ei hun yn canolbwyntio ar ymgysylltiad llenyddiaeth â’r gwyddorau, lle mae’n ymdrechu i amlygu pwysigrwydd parhaus creadigrwydd llenyddol i ddeall y byd o’n cwmpas.

Cau
Glyn Tansley
Ymddiriedolwr

Mae Glyn yn newyddiadurwr ac yn Olygydd Cynnwys gyda BBC Audio sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd. Mae'n arwain timau cynhyrchu y tu ôl i raglenni testunol BBC Radio 4 gan gynnwys Saturday Live, Any Questions?, Any Answers ag y Last Word. Cyn y rôl hon, roedd Glyn yn Gynhyrchydd Sain ac yn rhedeg podlediadau mawr ar gyfer Gwasanaeth Byd-eang y BBC gan gynnwys The Bomb a Hollywood Exiles. Yn ogystal â hyn, fe gynhyrchodd raglenni dogfen radio a oedd yn archwilio a chyflwyno llenyddiaeth a chelfyddydau Cymreig i gynulleidfaoedd Newydd, gan gynnwys Wales gan Niall Griffiths ar gyfer BBC Radio Wales ac Art of Now: Cymru Rising gyda Huw Stephens ar gyfer BBC Radio 4 yn 2019.
Daw Glyn o Fachynlleth yng nghanolbarth Cymru. Yn dilyn gradd israddedig yn Swydd Buckingham, cwblhaodd Ddiploma Ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth Ddarlledu ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Glyn wedi gweithio yn Global Radio a Tinopolis ac wedi dal amryw o swyddi newyddiaduraeth yn y BBC gan gynnwys fel cynhyrchydd ar raglen Today Radio 4.
Rhwng 2021 a 2024 roedd Glyn yn rhan o Fwrdd Cyfarwyddwyr Arts Connection/Cyswllt Celf, elusen gelfyddydau cyfranogol sydd wedi'i lleoli yn Llanfyllin.

Cau