Dewislen
English
Cysylltwch

Barddoniaeth er Iechyd a Llesiant

Nos Fawrth 14 Chwefror
5.30 pm – 7.30 pm (gyda’r perfformiadau a’r sgyrsiau rhwng 6.00 pm – 7.00 pm)
Y Senedd, Bae Caerdydd

Hwn oedd yr ail mewn rhaglen o naw digwyddiad yn adeiladau’r Senedd i ddathlu popeth barddonol, a chodi proffil barddoniaeth a’r gair llafar yng nghartref democratiaeth Cymru.

Roedd y digwyddiad am ddim yn cynnwys perfformiadau a sgyrsiau ar y thema Barddoniaeth ar gyfer Iechyd a Llesiant, ac fe’i noddir gan Dawn Bowden MS, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip.

Mae profion clinigol wedi dangos bod darllen ac ysgrifennu creadigol yn fuddiol i’n llesiant, yn gorfforol ac yn feddyliol ill dau. Mae llenyddiaeth yn adnodd grymus y gellir ei ddefnyddio i fynd i’r afael mewn ffordd gadarnhaol â nifer o faterion, a gall gyfrannu at wella bywydau pobl Cymru. Bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad yn trafod eu profiadau personol neu broffesiynol o ddefnyddio barddonaieth i gefnogi gwell iechyd a llesiant. Yn ogystal â pherfformiadau barddoniaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg, bydd trafodaethau ar sut y gall barddoniaeth helpu i wneud synnwyr o ddiagnosis meddygol, i ffeindio ffordd trwy alar, i gefnogi iechyd meddwl, adeiladu hyder a hunan-gred, ac i oresgyn trawma.

Cafodd dehongliad BSL ei ddarparu gan Cathryn McShane.

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen y stori newyddion am y digwyddiad.

Darganfyddwch ragor am y beirdd gymrodd rhan isod:

Esyllt Maelor
Mwy
Duke Al Durham
Mwy
clare e. potter
Mwy
Rufus Mufasa
Mwy
Patrick Jones
Mwy
Hanan Issa
Mwy
Esyllt Maelor

Mae Esyllt Maelor yn fardd ac yn addysgwr yn wreiddiol o Harlech. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion yn 2022, gyda cherddi a ysgogwyd gan ei mab, Dafydd. Mae wedi ysgrifennu, golygu a chyfrannu at nifer o gyhoeddiadau, gan gynnwys llyfrau i blant a phobl ifanc, ac siaradwyr Cymraeg newydd. Yn 2017 golygodd Galar a Fi (Y Lolfa), cyfrol o sgwennu yn archwilio galar, sy’n cynnwys profiadau pobl sydd wedi colli anwyliaid.
Mae hi’n credu fod yna awdur ym mhob plentyn, ac mae’n falch o lwyddiannau ei chyn-ddisgyblion sydd wedi parhau i ysgrifennu a chyfrannu at eu cymunedau.

Llun: Eisteddfod Genedlaethol Cymru / Aled Llywelyn

Cau
Duke Al Durham

Mae Duke Al yn fardd-berfformiwr ac yn hwylusydd gweithdai llenyddol. Mae’n defnyddio ysgrifennu cerddi fel therapi. O oedran ifanc, byddai Duke Al yn sgriblo rapiau a cherddi mewn llyfrau nodiadau. Dyma sut y byddai’n mynegi eu hunan; dihangfa i herio ei OCD. Dechreuodd angerdd at eiriau, llif ac odl flaguro. Ar ôl cael diagnosis o ddiabetes math 1 yn 23 oed, roedd y feiro yno i’w helpu i ddeall a mynegi sut roedd yn teimlo. Nawr mae’n anelu at wneud newid dylanwadol gan ddefnyddio un odl ar y tro. Gallwch ddod o hyd i waith cyhoeddedig diweddar Duke Al ar BT Sports, GIG, cyfnodolyn Artes Mundi, BBC Scrum V.

Roedd Duke Al Durham ymhlith y chwe enillydd ddaeth i'r brig yng ngystadleuaeth O Hyn Ymlaen | From Now On a gynhaliwyd gan Llenyddiaeth Cymru a Artes Mundi yn 2021. Cynhaliodd weithdy fel rhan o brosiect arbennig Do You Get Me yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail, a gweithiodd ar y cyd â Connor Allen i gynnal gweithdy'n archwilio hil a hunaniaeth fel rhan o'r prosiect Cymru Ni | Our Wales yn 2022.

Llun: Tyrone Lewis @processproductions

Cau
clare e. potter

Bardd a pherfformiwr dwyieithog yw clare e. potter, ac mae ganddi MA mewn Llenyddiaeth Affro-Garibïaidd o Brifysgol Mississippi. Bu’n byw yn New Orleans am ddegawd a chafodd gyllid gan Gyngor y Celfyddydau i ymateb i ddinistr Corwynt Katrina ar y cyd gyda phumawd jazz. Mae clare wedi cyfieithu gwaith Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, yn ogystal â chydweithio ag artistiaid i greu gosodiadau barddoniaeth mewn gofodau cyhoeddus. Roedd clare yn un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli ac mae wedi cael sawl preswyliad barddoniaeth gan gynnwys rhai gyda Gŵyl Velvet Coalmine, The Landmark Trust, Wales Arts Review ac Academi Morafaidd, Pennsylvania.

Enillodd Wobr John Tripp am berfformio barddoniaeth yn 2005 a chymerodd rhan yn ‘Listening Project’ BBC4 gyda’i thad, yn trafod tarddiad emosiwn mewn barddoniaeth. Yn 2019, cyfarwyddodd clare y rhaglen ddogfen ‘The Wall a The Mirror’ ar gyfer BBC Wales, lle casglodd straeon pobl o’i chymuned lofaol. Arweiniodd hyn at ymdrech i achub sefydliad y glowyr. Mae wedi cyflwyno rhaglenni ar gyfer BBC Radio Wales, ac mae rhagor ary gweill.

Angerdd mwyaf clare yw gweithio mewn ysgolion ac ar brosiectau cymunedol gydag artistiaid eraill. Ar hyn o bryd mae hi’n mentora artistiaid eraill ac yn gweithio ar sawl prosiect sy’n cyfuno ysgrifennu a llesiant, a trwy garedigrwydd grant gan Gyngor y Celfyddydau, mae’n astudio therapi barddoniaeth gyda Jill Teague o iaPOETRY.

Roedd clare yn rhan o brosiect Blas ar Fywyd Llenyddiaeth Cymru a Solidarios para el Desarrollo rhwng 2017-18, oedd yn canolbwynio ar fynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd ymysg pobl hŷn. Bu clare yn un o awduron prosiect Plethu | Weave Llenyddiaeth Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn 2020, ble gweithiodd ar y cyd â'r dawnsiwr Jo Shapland i gyflwyno fideo Swyn-Gân. Yn dilyn galwad agored ym mis Ionawr 2021, derbyniodd waith comisiwn gan Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru i gyflawni arddangosfa wythnos o hyd fel rhan o arddangosfa prosiect Ein Byd gan elusen Llamau. Ar hyn o bryd, mae clare hefyd yn rhan o Darn wrth Ddarn - prosiect partneriaeth gyda Mind Casnewydd a Maindee Youth wedi’i gyllido gan Comic Relief. Pwrpas y prosiect yw cefnogi teuluoedd a phobl ifanc gyda phroblemau iechyd meddwl, yn enwedig y rheiny o gefndir incwm isel, pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) neu sydd yn LHDTC+.

Cau
Rufus Mufasa

Mae Rufus Mufasa yn artist cyfranogol arloesol, actifydd llenyddol, bardd, rapiwr, canwr-gyfansoddwr, gwneuthurwr theatr, ac yn olaf ond nid lleiaf, yn Fam. O Gymrawd Barbican i Fardd Preswyl cyntaf Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, mae Rufus hefyd yn gweithio’n rhyngwladol, ac wedi derbyn preswyliadau llenyddol amrywiol o Ŵyl y Gelli i Sweden, y Ffindir, Indonesia, ac yn fwyaf diweddar Zimbabwe. Serch hynny, mae hi wastad yn dychwelyd i People Speak Up yn Llanelli, Cymru, gan hyrwyddo addysg hip hop, barddoniaeth perfformio a’r datblygiad rhwng cenedlaethau, ac yn ddiweddar fe’i penodwyd yn Fardd ar Bresgripsiwn. Yn artist Hull ’19 ar y cyd â BBC Contains Strong Language, mae ei chasgliad barddoniaeth llawn o’r enw Flashbacks and Flowers yn cael ei gyhoeddi yn y dyfodol agos gydag Indigo Dreams. Mae gwaith Rufus yn archwilio mamolaeth, ysbrydolrwydd llinach, dosbarth a statws, anhrefn hinsawdd, a thrawma traws-genhedlaeth / trapiedig.

Yn 2021, gweithiodd Rufus â'r dawnsiwr Camille Giraudeau fel rhan o brosiect trawsgelfyddyd Plethu | Weave Llenyddiaeth Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, gan gynhyrchu cerdd fideo oedd yn archwilio themâu themâu mamolaeth a sut i greu etifeddiaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Yn dilyn galwad agored yn Ionawr 2021, derbyniodd waith comisiwn gan Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru. Gan weithio gyda Plant Dewi, gyda chefnogaeth People Speak Up, roedd y prosiect uchelgeisiol hwn, O Mam Fach! nid yn unig yn tynnu sylw at rai o archarwyr mwyaf esgeulus y pandemig, ond hefyd yn anelu at anrhydeddu a dathlu mamolaeth a chynyddu gwytnwch, trwy greadigrwydd a grymuso.

Cau
Patrick Jones

Mae Patrick Jones yn fardd a dramodydd sydd wedi’i leoli yn Y Coed Duon. Mae wedi gweithio’n helaeth mewn lleoliadau cymunedol ac ym maes iechyd a llesiant. Ar hyn o bryd mae’n Awdur Preswyl gyda Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru, ac mae wedi gweithio gyda’r Forget Me Not Chorus ar brosiect sy'n dogfennu caneuon gwerthfawr i'r aelodau, sy'n unigolion sy’n byw gyda Dementia. Mae Patrick wedi gweithio gyda Mind Cymru, Y Samariaid, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Ysbyty Felindre, The Big Issue a mwy ar brosiectau ysgrifennu amrywiol ar gyfer iechyd a lles. Ei gyhoeddiad diweddaraf yw My Bright Shadow (Rough Trade Books, 2019), casgliad barddoniaeth sy’n archwilio galar, bywyd a chariad. Roedd yn un o'r awduron prosiect Plethu | Weave gan Llenyddiaeth Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, ble daeth beirdd a dawnswyr ynghŷd i greu ffilmiau byrion gwreiddiol.

Cau
Hanan Issa

Hanan Issa yw Bardd Cenedlaethol Cymru. Mae Hanan yn fardd, gwneuthurwr ffilm ac artist Iraci-Gymreig o Gaerdydd. Mae ei gweithiau diweddar yn cynnwys ei chasgliad barddoniaeth My Body Can House Two Hearts (Burning Eye Books, 2019) a’i chyfraniadau i Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales (Repeater Books, 2022) a The Mab (Unbound, 2022), ailadroddiad o straeon y Mabinogi i blant. Perfformiwyd ei monolog buddugol ‘With Her Back Straight’ yn Bush Theatre fel rhan o’r Hijabi Monologues. Roedd hi hefyd yn rhan o ystafell awduron cyfres arloesol Channel 4, We Are Lady Parts, ochr yn ochr â’i dyfeisiwr arobryn, Nida Manzoor. Derbyniodd Hanan gomisiwn 2020 Ffilm Cymru / BBC Wales ar gyfer ei ffilm fer The Golden Apple. Mae ei gwaith wedi’i berfformio a’i gyhoeddi ar blatfformau fel BBC Wales, ITV Wales, Huffington Post, Gŵyl StAnza, Poetry Wales, Y Stamp, Wales Arts Review, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r British Council. Cyd-sefydlodd Hanan y noson meic agored Where I’m Coming From yng Nghaerdydd. Roedd hi'n aelod o’r garfan gyntaf o awduron a gymerodd ran yn rhaglen Llenyddiaeth Cymru, Cynrychioli Cymru, yn 2021, ac mae hi hefyd wedi ennill Cymrodoriaeth Ryngwladol Cymru Greadigol Gŵyl y Gelli 2022-23.

Ers dechrau yn ei rôl fel Bardd Cenedlaethol Cymru ym mis Medi 2022, mae Hanan wedi cyfansoddi sawl cerdd ac ymateb greadigol, gan gynnwys ymateb creadigol cyfoes i’r clasur Nadoligaidd, A Child’s Christmas in Wales gan Dylan Thomas, cerdd gomisiwn gan Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBC) a Llenyddiaeth Cymru i ysgrifennu cerdd swyddogol Gŵyl Cymru Festival, a cherdd i nodi Diwrnod Alzheimer y Byd.

Cau