Dewislen
English
Cysylltwch

Beirdd yn rhannu geiriau o ddoethineb ar sut mae barddoniaeth o fudd i iechyd a llesiant

Cyhoeddwyd Iau 16 Chw 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Beirdd yn rhannu geiriau o ddoethineb ar sut mae barddoniaeth o fudd i iechyd a llesiant
Y bardd clare e potter yn annerch y gynulleidfa (ar y dde), wrth ymyl y Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain, Cathryn McShane

Daeth mwy na 100 o westeion ynghyd yn y cnawd ac ar-lein i fwynhau Dihuno’r Dychymyg: Barddoniaeth yn y Senedd ddydd Mawrth; noson o berfformiadau a sgyrsiau Llenyddiaeth Cymru ar y thema Barddoniaeth ar gyfer Iechyd a Llesiant. 

Roedd Rufus Mufasa, clare e potter, Dug Al Durham, Esyllt Maelor a Patrick Jones ymhlith y beirdd a fu’n perfformio yn y digwyddiad, a noddwyd gan Dawn Bowden MS, y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip. 

Gan rychwantu ystod o bynciau gan gynnwys rheoli galar, goresgyn trawma, magu hunanhyder a byw gyda dementia, rhoddodd pob un ddisgrifiad personol iawn o sut mae ysgrifennu wedi bod yn broses iacháu iddyn nhw ac i eraill, mewn gweithdai ac ar gyrsiau a drefnwyd gan Llenyddiaeth Cymru.  

“Poetry saved me as a child and continues to.” clare e potter

“Mae sgwennu yn gallu fy helpu i rhag mynd i fannau peryg – ac os ydw i’n mynd yna, mae sgwennu’n gallu fy nhywys oddi yna.” Esyllt Maelor

“Dwi’n credu bod na sgwennwr ymhob plentyn – a deud y gwir dwi’n credu bod na fardd yn cysgu ym mhob plentyn.” Esyllt Maelor

“I didn’t know where to turn, so I turned to the pen. It was an enormous self-therapy for me.” Duke Al Durham

“Sometimes your pen knows more about what’s really going on than you do.” Rufus Mufasa

“I’ve been taking words to some of the most neglected communities in Wales for 25 years – places not many artists or arts organisations go. I never fail to be surprised by people’s reactions to the power of words.” Patrick Jones

Hwn oedd yr ail mewn rhaglen o naw digwyddiad yn adeiladau’r Senedd i ddathlu popeth barddonol, a chodi proffil barddoniaeth a’r gair llafar yng nghartref democratiaeth Cymru. Trefnir y rhaglen gan Llenyddiaeth Cymru, ac fe’i ariennir gan Llywodraeth Cymru. 

Am ragor o wybodaeth am Dihuno’r Dychymyg, ewch i dudalen y rhaglen ar ein gwefan