
Gwe 4 Tach 2022
Fy Nhaith Ysgrifennu
Rwy'n Indiaidd ac yn Gymraes, cefais fy ngeni yn Bombay ac fe’m magwyd ar hyd a lled India, gan symud gyda fy nheulu yn unol â gofynion gyrfa fy nhad. Treuliais fy mhlentyndod i gyd gyda llyfr o fewn cyrraedd. Pan nad oedd rhai newydd ar gael, fe wnes i ailddarllen fy ffefrynnau. Ond wnaeth erioed fy nharo i y gallwn ysgrifennu fy rhai fy hun.