Dewislen
English
Cysylltwch

Gair gan y Cadeirydd a’r Dirprwy Gadeirydd

Yn Resources of Hope (1989) mae’r athronydd a’r beirniad o Gymro, y digymar Raymond Williams, yn dweud “to be truly radical is to make hope possible, rather than despair convincing.” Mae Llenyddiaeth Cymru wastad wedi ceisio sicrhau bod ein ffyrdd o weithio a’n huchelgeisiau yn radical, ac rydyn ni wedi ymrwymo i weddnewid ein diwylliant llenyddol mewn ffordd bellgyrhaeddol.

Fel y gwelwch yn y Cynllun Strategol hwn, mae gennyn ni’r gallu i wynebu heriau’r byd heddiw, ac rydyn ni’n barod i roi prosiectau ar waith sy’n gadael neb ar ôl. A ninnau’n sefydliad hyblyg sy’n croesawu newid, byddwn ni’n sicrhau bod ein strategaeth yn esblygu ochr yn ochr â’r sector prysur rydyn ni’n rhan ohono. Gallwn ni wedyn ddatblygu cyfleoedd newydd i’n hawduron ac ateb anghenion ein darllenwyr a’n cynulleidfaoedd. Yn garreg sylfaen i’n gwaith yw’n hymrwymiad i hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant amrywiol a byrlymus Cymru, ac mae ein hamcanion yn cyd-fynd â Saith Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Rydyn ni am i’n holl awduron a hwyluswyr llenyddol allu sbarduno newid. Yn benodol, byddwn ni’n grymuso’r rheini sydd wedi bod heb lais yn y gorffennol i ysgrifennu eu dyfodol eu hunain; byddan nhw’n gweithio gyda ni i ddatblygu a chreu diwylliant llenyddol sy’n ddrych o fywydau a phrofiadau ein cenedl amrywiol ac amlieithog. Mae llenyddiaeth yn bwysig i’n heconomi. Mae awduron yn cyfrannu at amrywiaeth eang o ddiwydiannau creadigol, gan gynnwys byd y ffilm, gemau cyfrifiadurol, y theatr a’r byd cyhoeddi, a byddan nhw’n hollbwysig yn hyfywedd economaidd Cymru. Mae llenyddiaeth yn faes chwarae ac yn ddrws dychymyg i blant a phobl ifanc, ac rydyn ni am iddyn nhw lywio’r llenyddiaeth honno fel bod eu lleisiau’n siarad â chenedlaethau heddiw a rhai’r dyfodol.

Yn ein gwaith rydym yn defnyddio llenyddiaeth i helpu gwella a chyfoethogi bywydau, a gallwn fesur effaith y gwaith hwn. Fel ffurf ar gelfyddyd, gall llenyddiaeth – ac yn wir, fe ddylai – fod yn amlycach yn ein bywydau bob dydd. Rydyn ni am iddi ein ein tywys ni drwy’r broses adfer gan wella ein llesiant a chreu dyfodol tecach a gwyrddach i Gymru. Mae’r strategaeth hon yn cyflwyno’r strwythur a’r dulliau y byddwn ni’n eu defnyddio i gyflawni’r uchelgeisiau hyn, ynghyd â’r partneriaethau y byddwn ni’n eu datblygu i sicrhau bod ein gwaith yn gynaliadwy a bod iddo waddol. Mae’n hollbwysig casglu’r wybodaeth a’r dystiolaeth iawn er mwyn datblygu prosiectau a fydd yn galluogi mwy o bobl i gyfranogi ac i fwynhau llenyddiaeth. Mae hyn yn ein galluogi ni i ddeall yn well sut y gall gyfoethogi a gweddnewid bywydau, ac i ddadlau dros lenyddiaeth mewn nifer o sectorau a meysydd polisi, gan gynnwys iechyd a llesiant, addysg, twristiaeth ac adfywio lleol.

Mae’r straeon y byddwn ni’n eu darllen, yn eu clywed, ac yn eu dweud wrth ein gilydd yn ein helpu ni i ddehongli cymhlethdodau ein bywydau ac mae’r creadigrwydd sydd ynghlwm wrth ddarllen ac ysgrifennu’n gallu goleuo pob gwyll, gan wneud gobaith yn bosibl.

Dr Cathryn Charnell-White, Cadeirydd a Natalie Jerome, Dirprwy Gadeirydd

Nôl i Cynllun Strategol – Prif Dudalen