Dewislen
English
Cysylltwch
Datblygu sector sy’n cefnogi mynediad teg i bawb drwy fynd i’r afael ag anghydraddoldebau hanesyddol a strwythurol a rhoi llwyfan i leisiau amrywiol

Ein prif nod yw cynrychioli amrywiaeth Cymru yn well yn ei llenyddiaeth. Byddwn ni’n parhau i roi pwyslais yn ei gwaith ar bobl sy’n cael eu tangynrychioli ac sydd wedi wynebu hiliaeth, abledd (sef dangos ffafriaeth tuag at unigolion heb anableddau), gwahaniaethu ac anghydraddoldebau hanesyddol a strwythurol.  

Byddwn ni’n cynyddu ymhellach nifer y cyfleoedd sydd ar gael ac yn chwilio am leisiau talentog er mwyn rhoi llwyfan a chefnogaeth iddynt. Pryd bynnag y bydd hynny’n bosibl, wrth inni gynllunio cyfleoedd a gweithgareddau, byddwn ni’n gweithio’n agos gyda phobl sydd â phrofiad bywyd o’r cefndiroedd hyn.  

 

Byddwn ni’n parhau i ganolbwyntio ein gwaith ar gyfer y rheini sydd wedi wynebu anghydraddoldebau a gwahaniaethu strwythurol, hanesyddol, hiliaeth, abledd (sef dangos ffafriaeth tuag at unigolion heb anableddau), a rhagfarn. Yng nghymunedau llenyddol Cymru, er mwyn i’n gwaith allu cael yr effaith fwyaf, byddwn ni’n blaenoriaethu gweithio gyda’r canlynol:

  • Pobl o liw (Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig)
  • Pobl sy’n arddel anabledd neu sydd â chyflwr iechyd hirdymor.
  • Pobl o gefndiroedd incwm isel

 

Beth fyddwn ni’n ei wneud?

Byddwn ni’n cefnogi cyfleoedd: 

Gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau’r filltir sgwâr, cymunedau, ymgyrchwyr ac elusennau, byddwn ni’n datblygu ac yn darparu prosiectau sy’n cael effeithiau cadarnhaol, a rheini’n fesuradwy. Byddwn ni hefyd yn cefnogi ac yn cynorthwyo’r rheini sydd ar flaen y gad wrth ddarparu cynlluniau arloesol i grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.  

Byddwn ni’n ymchwilio: 

Byddwn ni’n canolbwyntio ar gasglu gwell tystiolaeth i ganfod ble mae’r rhwystrau mwyaf yn dal i fodoli, a ble y gallwn ni hyrwyddo unigolion a sefydliadau sy’n ceisio ysgogi newid.  

Byddwn ni’n creu ecosystem lenyddol gynhwysol: 

Nod hirdymor yw creu gwell ecosystem lle bydd lleisiau sy’n cael eu tangynrychioli’n ysbrydoli pobl eraill, ac rydyn ni wedi ymrwymo i gyflwyno newid systemig. Ar hyn o bryd, efallai nad yw pobl yn eu gweld eu hunain yn y llenyddiaeth maen nhw’n ei darllen a’i chlywed. Dylai pobl allu darllen a mwynhau gweithiau llenyddol gan awduron sydd â phrofiadau bywyd tebyg, mewn llyfrau cyhoeddedig, mewn gwaith sy’n cael ei berfformio, ac ymhlith hyrwyddwyr cymunedol, arweinwyr gweithdai, tiwtoriaid ysgrifennu creadigol, a beirdd cenedlaethol.  

 

Pam blaenoriaethu Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb?

Rydyn ni’n gwybod bod amryw o rwystrau’n dal i fodoli yn y sector a’r rheini’n atal awduron, darllenwyr a chynulleidfaoedd rhag ymwneud â llenyddiaeth. Mae ymchwil wedi dangos bod graddiant economaidd-gymdeithasol cryf yn bodoli wrth i bobl gyfranogi yn y celfyddydau yn y Deyrnas Unedig. Ceir tystiolaeth bod unigolion difreintiedig yn llai tebygol o ymwneud â gweithgareddau diwylliannol, tra bo mwy na dwbl cyfran yr unigolion o grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch wedi cymryd rhan mewn ysgrifennu creadigol o’u cymharu â’r rheini o aelwydydd incwm isel. Y grwpiau rydyn ni’n eu blaenoriaethu yn ein gweithgareddau yw’r rhai sy’n fwyaf tebygol o wynebu rhwystrau niferus o ran symudedd cymdeithasol, llwyddiant addysgol, ac iechyd meddyliol a chorfforol da. Yn 2020, gan Gymru oedd y ffigur uchaf yn y Deyrnas Unedig o ran y rheini sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol (23%). Mae ystadegau hefyd yn dangos diffyg cydraddoldeb sylweddol wrth edrych ar gyfraddau diweithdra pobl o liw a phobl sy’n arddel anabledd neu sydd â chyflwr iechyd hirdymor.

Yn 2019, dywedodd 100% o’r garfan a oedd yn rhan o gynllun Llenyddiaeth Cymru, Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli, eu bod nhw’n credu bod heriau’n bodoli wrth geisio dilyn gyrfa fel awdur/artist yng Nghymru.

At hynny, mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith anghymesur ar y grwpiau hyn yn y sector. Dangosodd arolwg a gynhaliwyd fel rhan o #WeShallNotBeRemoved bod 83% o’r ymatebwyr wedi mynegi pryder am drefniadau mynediad i gynulleidfaoedd a chyfranogwyr anabl wrth i’r sector ailagor. Rydym yn llwyr gymeradwyo’r weledigaeth a amlinellwyd gan Celfyddydau Anabledd Cymru ac yn ymdrechu i gael llenyddiaeth sy’n cynnwys pobl anabl a phobl b/Byddar. Mae’r pandemig hefyd wedi amlygu anghydraddoldebau yng ngweithlu’r sectorau diwylliannol, gyda’r rheini sydd ar incwm isel a/neu o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn wynebu rhwystrau wrth geisio gael cyfleoedd gwaith yn y sector, tra bo pobl o liw neu bobl sydd ag anableddau’n aml wedi’u gorgynrychioli mewn etholaethau lle ceir anfanteision economaidd-gymdeithasol.

 

Enghreifftiau o Brosiectau

Cyfranogi: Darn wrth Ddarn

Drwy bartneriaeth hirhoedlog â Mind Casnewydd a Community Youth, bydd 15 o artistiaid a beirdd yn darparu prosiectau creadigol i gefnogi teuluoedd a phobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghasnewydd. Gan rannu profiadau o drawma drwy weithgareddau creadigol, nod y prosiect yw gwella llesiant y cyfranogwyr, ac ar yr un pryd, pwyso am newidiadau i ddeddfwriaeth a pholisi i wella gwasanaethau.

Datblygu Awduron: Cynrychioli Cymru

Mae’r prosiect amlwg hwn yn mynd ati i dargedu’r grwpiau rydyn ni’n eu blaenoriaethu, a hynny drwy raglen datblygu proffesiynol flwyddyn o hyd. Mae’r prosiect yn cefnogi awduron i ddatblygu eu gwaith drwy roi cymorth ariannol iddyn nhw a thrwy eu mentora. Y nod yw dod â’r proffesiwn ysgrifennu yn nes atyn nhw, ac mae’r cynllun yn cynnwys cyfleoedd i rwydweithio a dosbarthiadau meistr er mwyn cyflwyno mwy o amrywiaeth i weithlu’r sector llenyddol.

Nôl i Ein Nodau