Dewislen
English
Cysylltwch
Hyrwyddo’r Gymraeg a dathlu ein diwylliant Cymreig unigryw, amrywiol, drwy feithrin sîn lenyddol fyrlymus a chyfleoedd i archwilio drwy lenyddiaeth

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom, pryd bynnag a sut bynnag y down i’w hadnabod. Bydd unrhyw un sy’n ymwneud â Llenyddiaeth Cymru yn elwa o’r Gymraeg – boed yn rhugl, yn gallu defnyddio ambell air ac ymadrodd, neu’n gwbl newydd i’r iaith ac yn chwilfrydig i wybod mwy. Fel pob iaith gyfoes a chreadigol, mae’r Gymraeg yn newid ac yn ymaddasu wrth i genedlaethau newydd ei chofleidio. Ar hyd y blynyddoedd mae amrywiaeth o acenion a thafodieithoedd wedi cyfoethogi ein llên: o Dewi Emrys i Megan Angharad Hunter, o’r Wenwyseg i Wenglish, mae geiriau a chyweiriau’r Gymraeg yn canu yn ein clustiau ac yn chwyrlïo yn ein dychymyg.  

Rhan gwbl ganolog o’n cenhadaeth ni yw creu Cymru lle mae’r Gymraeg yn ffynnu a’n llenyddiaeth yn cynrychioli ein lleisiau amrywiol. Er mwyn gwireddu hyn byddwn yn cydweithio â phartneriaid i fynd i’r afael â diffyg cynrychiolaeth yn y sector llenyddol, byddwn yn ysbrydoli unigolion i weithredu i atal yr argyfwng hinsawdd, a byddwn yn cefnogi llesiant unigolion a chymunedau. Gwnawn hyn oll drwy brism yr iaith Gymraeg.   

Mae ein Cynllun Datblygu’r Iaith Gymraeg yn adnodd pwysig sy’n dyst i’n hymrwymiad i’r iaith Gymraeg. Mae’n adnabod meysydd lle gallwn wella, yn ogystal ag adnabod arfer da y gellid ei rannu ag eraill. Nid elfen ddidoledig, ar wahân ar ein gwaith ni yw’r Gymraeg, ond sail ein holl weithgaredd a’n blaenoriaethau, a cherrynt sy’n llywio ein gwerthoedd. Bydd y Gymraeg yn sylfaen gadarn wrth inni fynd i’r afael â’n saith gôl ac wrth ymgyrraedd at Gymru sy’n fwy cyfartal, sy’n iachach, ac sy’n fwy cydnerth. Yn ein tro, byddwn yn cyfrannu at ddiwylliant Cymraeg a Chymreig bywiog sy’n ymfalchïo yn yr iaith ac yn ei rhannu â’r byd. Mae iaith a thir Cymru yn gyfrodedd tynn â’i gilydd ac, yn yr un modd, mae’r Gymraeg yn llinyn arian yng ngweledigaeth Llenyddiaeth Cymru o Gymru sy’n grymuso, yn gwella, ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth.

Nôl i Ein Nodau