Mae gan bawb stori i’w hadrodd. Gall taith unigolyn yng nghwmni llenyddiaeth ddechrau’n ifanc iawn, o lapio’n glyd i wrando ar stori amser gwely i greu llyfr lluniau yn y dosbarth gydag athro neu awdur gwadd. Bydd pobl eraill yn dod i fwynhau llenyddiaeth yn hŷn yn eu bywydau, drwy ymuno â chwrs ysgrifennu rhithwir neu grŵp yn y llyfrgell leol, cyn mynd yn eu blaenau i gyhoeddi llyfr a allai wedyn gyrraedd rhestr fer gwobr o bwys. Ar y cyd ag amrywiaeth o bartneriaid a chyllidwyr, byddwn ni’n sicrhau bod cerrig camu ar gael i bawb sy’n awyddus i ysgrifennu, mynegi’u hunain, a gwneud cynnydd.
Sut y byddwn ni’n cyflawni?
Creu cyfleoedd a chyfeirio pobl atyn nhw:
Byddwn ni’n sicrhau bod awduron o bob oed, cefndir, lleoliad a gallu’n cael cyfleoedd i wella’u sgiliau a datblygu’u huchelgeisiau llenyddol eu hunain. Byddwn ni’n sicrhau ein bod ni’n cefnogi awduron yn y tymor hir ac yn eu tywys at y camau nesaf yn eu datblygiad.
Mentora egin awduron:
Drwy gynnig cyfleoedd a chyrsiau cysgodi a mentora, byddwn ni’n galluogi egin awduron i feithrin eu crefft a dysgu gan awduron mwy profiadol. Byddwn ni hefyd yn annog ac yn helpu cymheiriaid i gefnogi’i gilydd a rhwydweithio â’i gilydd.
Cyngor am y diwydiant:
I’r rheini sy’n barod i rannu’u gwaith, byddwn ni’n rhoi gwybodaeth ac arweiniad er mwyn iddyn nhw ddod i ddeall y sector llenyddiaeth. Byddwn ni’n rhoi cymorth i bobl ddod o hyd i lwybrau cyhoeddi, ymwneud â rhwydweithiau llenyddol, digwyddiadau a pherfformiadau cyhoeddus, creu enw iddyn nhw’u hunain drwy gystadlaethau, datblygu’n broffesiynol, a mwy.
Dathlu talent:
Mae awduron Cymru yn llysgenhadon sy’n adrodd straeon Cymru i’r byd. Byddwn ni’n dathlu ein hawduron gorau ac yn rhoi llwyfan i’w talentau ysgrifennu gartref a’r tu hwnt.
Enghraifft: Gwella Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb drwy ddatblygu awduron
Bydd ein rhaglen flaengar, Cynrychioli Cymru: Datblygu Awduron yn parhau i esblygu. Bob blwyddyn, byddwn ni’n buddsoddi mewn carfan o awduron sy’n arddel nodwedd benodol sy’n cael ei thangynrychioli (ac yn aml pobl sy’n arddel mwy nag un nodwedd o’r fath). Byddwn ni’n darparu rhaglen ddatblygu unigryw ar eu cyfer, er mwyn gwireddu dyheadau a breuddwydion yr awduron. Yn debyg i’r hyn a ddigwyddodd yn y blynyddoedd diwethaf, byddwn yn cynnig rhaglen sydd wedi ei seilio ar anghenion a diddordebau’r grŵp, gyda’r grŵp hynny yn llywio’r cynnwys. Yn ogystal â chyd-greu gyda’r awduron, byddwn yn cyd-weithio gyda sefydliadau partner ac awduron eraill er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn cyflawni ystod o gefnogaeth datblygiad proffesiynol yn ogystal ag ysgrifennu creadigol. Bydd hyn yn creu ffrwd o dalentau Cymreig unigryw, amrywiol i gynrychioli ein sîn lenyddol gartref ac yn rhyngwladol. Ni fydd ein hymwneud â’r awduron yn dod i ben ar ddiwedd y prosiect blwyddyn o hyd. Byddwn ni’n parhau i gefnogi awduron Cynrychioli Cymru am flynyddoedd ac yn eu hyrwyddo fel llysgenhadon Llenyddiaeth Cymru a llenyddiaeth o Gymru.