Dewislen
English
Cysylltwch
Dathlu amrywiaeth ein hawduron cyfoes a threftadaeth lenyddol Cymru yn y byd, drwy greu llwyfan i lenyddiaeth sy’n fwy perthnasol ac yn agored i gynulleidfa ehangach.

Mae gwerth economaidd a chymdeithasol anferth i ddiwylliant llenyddol Cymru, ac mae’n ein galluogi i roi Cymru ar lwyfan y byd. Rydyn ni’n hyrwyddo awduron Cymru ymhlith cynulleidfaoedd gartref a thramor, yn dathlu ein treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog, ac yn palu’r ffordd i wneud lle i leisiau’r dyfodol. Bydd y gwaith rydyn ni’n ei wneud drwy Gyfranogi a Datblygu Awduron yn cyfrannu at dwf ein diwylliant llenyddol.  

 

Sut y byddwn ni’n cyflawni?  

Darparu llwyfannau: 

Byddwn ni’n mynd ati i chwilio am gyfleoedd i roi llwyfan i dalentau llenyddol Cymru, er mwyn iddyn nhw fod yn llysgenhadon i lenyddiaeth, diwylliant a gwerthoedd Cymru, yn ogystal ag i’r Gymraeg. Mae’r cyfleoedd hyn yn cynnwys swyddi amlwg y beirdd cenedlaethol (Bardd Plant Cymru, Children’s Laureate Wales a Bardd Cenedlaethol Cymru), ac ehangu effaith Gwobr Llyfr y Flwyddyn. 

Cyflwyno Cymru i’r byd: 

Yn ogystal â chefnogi mwy o gymunedau Cymru i ymwneud â’r diwylliant llenyddol sydd ar garreg eu drws, rydyn ni’n credu bod ein llenyddiaeth yn haeddu cael ei dathlu yn rhyngwladol. Byddwn ni’n parhau i ddathlu treftadaeth lenyddol gyfoethog Cymru, ac ar yr un pryd yn ceisio creu diwylliant yn y dyfodol sy’n cynrychioli amrywiaeth holl bobl y wlad.  

Hyrwyddo sector llenyddol amrywiol: 

Mae ein gwaith i gynyddu amrywiaeth a chynrychiolaeth lleisiau yn rhoi amlygrwydd i straeon o wahanol safbwyntiau, cymunedau a chefndiroedd. O atgofion cenhedlaeth Windrush yng Nghasnewydd, i drafferthion teulu a fudodd o Tsieina i gefn gwlad Powys – bydd ein hunaniaeth fel gwlad yn ei holl weddau a’i holl ieithoedd yn cael ei chynrychioli a’i dathlu’n gynyddol drwy’r llenyddiaeth y byddwn ni’n ei hyrwyddo. 

Enghraifft: Rhoi sylw i’r Argyfwng Hinsawdd drwy ein diwylliant llenyddol

Rydyn ni’n ymwybodol na ddylen ni greu gormod o ôl-troed carbon wrth gyflwyno llenyddiaeth Cymru i’r genedl ac yn rhyngwladol. Bydd ein gweithgaredd digidol, Gwlad y Chwedlau, yn ysbrydoli pobl i ymweld â Chymru rithwir sy’n llawn cysylltiadau llenyddol a diwylliannol. Mae ein hawduron yn darlunio hud a lledrith ein tirluniau a’n treftadaeth mewn geiriau, yn rhoi cyfle i bobl ymweld â’n gwlad ni yn eu dychymyg.

Nôl i Ein Nodau