Ein Blaenoriaethau
Rydyn ni wedi dewis blaenoriaethu a chanolbwyntio ar dair blaenoriaeth, a’r rheiny’n ceisio ysgogi newid mewn cymdeithas drwy lenyddiaeth:
- Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb – Datblygu sector sy’n cefnogi mynediad teg i bawb drwy fynd i’r afael ag anghydraddoldebau hanesyddol a strwythurol a rhoi llwyfan i leisiau amrywiol
- Iechyd a Llesiant – Cefnogi llesiant unigolion a chymunedau, gan ddefnyddio llenyddiaeth fel grym iachaol i gryfhau gwasanaethau
- Argyfwng Hinsawdd – Defnyddio creadigrwydd i addysgu, archwilio a herio, gan wella ymwybyddiaeth pobl o’r argyfwng hinsawdd ac ysgogi newid er gwell
Ein Mathau o Weithgarwch
Byddwn ni’n cyflawni’r blaenoriaethau hyn drwy dri math o weithgarwch, a dyma sut y byddwn ni’n creu cymdeithas lenyddol fyrlymus:
- Cyfranogi – Galluogi mwy o bobl yng Nghymru i fwynhau a chymryd rhan mewn llenyddiaeth, gan ysbrydoli cymunedau a’i gwneud hi’n haws i bobl ymwneud â’n gwaith
- Datblygu Awduron – Datblygu a chefnogi gweithlu medrus sy’n cynnig gweledigaeth yn y sector llenyddol, drwy ddarparu cyfleoedd, cynyddu potensial, a hyrwyddo arferion cyflogaeth teg
- Diwylliant Llenyddol Cymru – Dathlu amrywiaeth ein hawduron cyfoes a threftadaeth lenyddol Cymru yn y byd, drwy greu llwyfan i lenyddiaeth sy’n fwy perthnasol ac yn agored i gynulleidfa ehangach.
Ein Sylfaen
- Y Gymraeg – Hyrwyddo’r Gymraeg a dathlu ein diwylliant Cymreig unigryw, amrywiol, drwy feithrin sîn lenyddol fyrlymus a chyfleoedd i archwilio drwy lenyddiaeth.
Ceir rhagor o wybodaeth am ein Cynllun Strategol ar gyfer 2022-2025 yma.