Dewislen
English
Cysylltwch

Rydyn ni’n diffinio awduron fel pawb sy’n ysgrifennu, er mwynhad neu i ennill bywoliaeth, a hynny ym mhob cam ar eu siwrneiau llenyddol. Nhw yw ein gweithlu a’n hasedau mwyaf gwerthfawr. Maen nhw’n llysgenhadon i’n blaenoriaethau a’n gwerthoedd. Byddwn ni’n parchu, yn hyrwyddo ac yn cefnogi awduron Cymru, gan addo ffioedd teg iddyn nhw. Byddwn ni’n eu cefnogi mewn ffyrdd ystyrlon, yn eu helpu i ddeall y sector llenyddiaeth, ac yn dathlu eu llwyddiannau.  

Byddwn ni’n ysbrydoli ac yn cynnig cyfleoedd i awduron arbrofi â’u crefft, mentro, a datblygu rhagoriaeth yn eu gwaith, a thrwy hynny feithrin enw iddyn nhw’u hunain. Byddwn ni’n annog holl awduron Cymru i rwydweithio yn eang, herio a hyrwyddo’i gilydd, a rhannu cyfleoedd ac arferion da. 

Byddwn ni’n osgoi labelu ein hawduron yn ddianghenraid ar sail eu profiadau neu’u harbenigedd yn y gorffennol. Byddwn ni’n dathlu bod ein hawduron yn cynrychioli ystod eang o oedrannau; byddan nhw’n ysgrifennu neu’n perfformio yn Gymraeg, yn Saesneg, ac yn ieithoedd eraill Cymru; a byddan nhw’n cynrychioli cymunedau amrywiol Cymru o ran cefndiroedd a phrofiadau bywyd.  

Nôl i Gyda phwy rydyn ni’n gweithio?