Dewislen
English
Cysylltwch

Yng Nghymru, mae anghydraddoldebau sylweddol dal i fodoli yn y cyfleoedd sydd ar gael i ymwneud â diwylliant a llenyddiaeth a chyfranogi ynddyn nhw. I geisio sicrhau cydraddoldeb a gwell cynrychiolaeth yn niwylliant a chymunedau llenyddol Cymru, ac i sicrhau bod ein gwaith yn canolbwyntio ar y mannau lle bydd yn cael yr effaith fwyaf, byddwn ni’n blaenoriaethu gweithio gyda’r canlynol: 

  • pobl o liw (Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig) 
  • pobl sy’n byw gydag anableddau neu salwch (meddyliol neu gorfforol) 
  • unigolion o gefndiroedd incwm isel 

Byddwn ni hefyd yn gweithio gydag awduron o’r gymuned LGBTQ+, y cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ffoaduriaid, ac unigolion sy’n ynysig oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu, eu hymrwymiadau personol, a’u lleoliad daearyddol. Byddwn ni’n gwrando ar ymgyrchoedd fel Black Lives Matter a #weshallnotberemoved, yn dysgu ganddyn nhw, ac yn cyflwyno’u gwerthoedd yn ein gwaith ni. Rydym yn cefnogi Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru a’r nod o greu Cymru Wrth-hiliol. 

Rydyn ni’n cydnabod bod nifer o bobl yn arddel nodweddion gwarchodedig niferus (fel mae’r rheini wedi’u diffinio yn Neddf Cydraddoldeb 2010) a byddwn ni’n gweithio mewn ffordd groestoriadol, gan gofio bod pobl yn aml yn wynebu rhwystrau niferus a chymhleth wrth geisio ymwneud â’r celfyddydau. 

Nôl i Gyda phwy rydyn ni’n gweithio?