Dewislen
English
Cysylltwch

Gall cyflwyno hud a lledrith straeon a geiriau yn gynnar ym mywyd rhywun olygu y bydd yr unigolyn hwnnw’n mwynhau llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol gydol oes. Gan weithio yn y system addysg – o’r blynyddoedd cynnar i’r brifysgol – yn ogystal ag y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, byddwn ni’n ceisio ysgogi diddordeb a chwilfrydedd plant a phobl ifanc ym maes ysgrifennu creadigol a darllen. 

Mae dau o’n prif brosiectau, Bardd Plant Cymru a’r Children’s Laureate Wales, yn eirioli dros hawliau plant a phobl ifanc yn ogystal â’u cefnogi i ymateb yn greadigol i faterion cymdeithasol sy’n bwysig iddyn nhw, fel yr argyfwng hinsawdd ac iechyd meddwl.  

Mae angen pobl i’w hefelychu ar genedlaethau’r dyfodol – mae angen i blant eu gweld eu hunain yn yr awduron sy’n ymweld â’u hysgolion ac yn y cymeriadau maen nhw’n darllen amdanyn nhw mewn llyfrau. Mae 33.5% o blant yn ysgolion cynradd y Deyrnas Unedig o gefndir lleiafrif ethnig. Eto i gyd, dim ond 10% o’r llyfrau plant a gyhoeddwyd yn 2019 a oedd yn cynnwys cymeriadau o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig. Gan ddilyn argymhellion adroddiad terfynol Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd, dan arweiniad yr Athro Charlotte Williams, byddwn ni’n hyfforddi mwy o hwyluswyr llenyddol i gynnal gweithdai mewn ysgolion. Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda’n partneriaid yn y sector addysg a’r byd cyhoeddi, gan gynnwys sefydliadau cenedlaethol o bwys fel y Mudiad Meithrin, er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg llyfrau ac adnoddau amrywiol i blant a phobl ifanc.  

Bydd llenyddiaeth hefyd yn adnodd grymus i hybu iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Bydd prosiectau darllen ac ysgrifennu creadigol ar y cyd, a’r rheini’n hybu llesiant, yn helpu pobl ifanc i brosesu eu pryderon a mynegi’u gobeithion at y dyfodol.  

Nôl i Gyda phwy rydyn ni’n gweithio?