Dewislen
English
Cysylltwch
Carl Connikie

Mae Carl Connikie yn 61 oed ac yn dod o bentref Llandegfedd, Sir Fynwy. Mae’n awyddus i ddilyn gyrfa mewn creu deunydd dogfen ffeithiol. Cafodd ei eni yn Clarendon, Jamaica. Ond yn 1960, ac yntau’n ddim ond 11 mis oed, ymfudodd i Brydain fel rhan o genhedlaeth Windrush. Dechreuodd fwynhau ysgrifennu wrth weithio ar adroddiadau yn rhinwedd ei swydd fel Dadansoddwr Gwybodaeth i Heddlu Gwent, ond yn 2016 sefydlodd ei fusnes ei hun, a hynny ar ôl cael camera yn anrheg ar ei ben-blwydd yn hanner cant. Mae wedi tynnu lluniau o enwogion niferus gan gynnwys y Tywysog Charles; yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel; Maer Llundain, Sajid Javid; a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford. Yn 2018, aeth ati i greu prosiect ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn tynnu lluniau a chyfweld â chenhedlaeth Windrush yng Nghasnewydd, gan sicrhau bod eu straeon yn cael eu clywed.

 


Sut fydd y rhaglen o gymorth i’ch datblygiad fel awdur?

Rwy’n gobeithio addasu fy newid fy arddull ysgrifennu o fod yn ffeithiol, academaidd ac yn ddiflas, I arddull adrodd stori fwy personol. Yn ogystal, ni wn ddim byd o gwbl am osodiad, golygu na chyhoeddi ac felly rwy’n edrych ymlaen at ddysgu mwy am hyn, ac am sawl elfen arall o fynd ati i ysgrifennu. Byddwn yn disgrifio fy arddull fel un ffeithiol neu ddogfennol, ond rwy’n barod i ddysgu am arddulliau eraill. Dydych chi byth yn gwybod os allwch chi wneud rhywbeth nes i chi roi cynnig arni, ac rwy’n barod amdani.

 

Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf o ran y rhaglen? Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni wrth gymryd rhan yn y rhaglen?

Dysgu i ysgrifennu mewn ffordd fyddai’n fy ngalluogi i gyflawni llyfr ar ffurf dogfennol.

 

Fel awdur, ble hoffech chi fod ymhen pum mlynedd?

Hoffwn weld a oes gen i straeon eraill y byddai gan bobl ddiddordeb yn eu clywed. Yn y pen draw hoffwn ysgrifennu nofel, ond rwy’n ymwybodol y bydd rhaid i mi ddechrau gyda blog neu rywbeth felly.

Nôl i Yr awduron sydd wedi eu cefnogi