Dewislen
English
Cysylltwch
Daniel Howell

Mae Daniel James Howell yn 21 oed ac yn dod o Gaerfyrddin. Roedd Daniel yn ddarllenwr brwd erioed, ond ac yntau’n ei arddegau, fe wyddai y byddai’n ysgrifennu ei nofel ei hun ryw ddydd. Mae wedi ennill gwobrau mewn sawl cystadleuaeth farddoniaeth, gan gynnwys Gŵyl Farddoniaeth Wenlock a Chystadleuaeth Farddoniaeth Buxton, lle bu’n darllen ei waith. Mae wedi arbrofi â newyddiaduraeth drwy wneud rhywfaint o waith cyhoeddusrwydd gwirfoddol i’w glwb jiwdo, ac mae hefyd wedi creu sianel ar YouTube ac wedi adolygu llyfrau arni. Mae wrthi’n cwblhau ei brosiect ysgrifennu presennol, sef cyfres o 12 o nofelau ffuglen wyddonol byrion. Prosiect yw hwn y dechreuodd arno dair blynedd a hanner yn ôl.


Sut fydd y rhaglen o gymorth i’ch datblygiad fel awdur?

Fel awdur heb ei gyhoeddi, credaf mai’r rhwystr mwyaf wrth geisio cyflawni fy amcanion ysgrifennu fydd sicrhau bod fy ngwaith yn cael sylw. Mae’n anodd iawn i awdur newydd ddod o hyd i gyhoeddwr o’r newydd, sy’n barod i fuddsoddi yn eu llyfr(au). Rwy’n teimlo felly y byddai’r rhaglen hon yn gyfle gwych i mi wneud cysylltiadau gwerthfawr, ac i ddysgu mwy am gyhoeddi prif ffrwd. Rwyf hefyd yn angerddol iawn am y prosesau a’r technegau sy’n cael ei dilyn wrth lunio stori, ac rwy’n teimlo y bydd y rhaglen hon yn cynnig cyfleoedd i mi ddysgu gan awduron profiadol.

 

Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf o ran y rhaglen? Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni wrth gymryd rhan yn y rhaglen?

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at dod yn gyfarwydd â’r diwydiant cyhoeddi. Gobeithiaf y byddaf, drwy gymryd rhan, y byddaf yn datblygu’r technegau sydd eu hangen i greu gyrfa fel nofelydd.

 

Fel awdur, ble hoffech chi fod ymhen pum mlynedd?

Rwyf wedi breuddwydio am ysgrifennu’n broffesiynol ers i mi ddysgu sut i ddarllen. Fodd bynnag, mae ysgrifennu bob tro wedi gorfod cael ei wasgu rhwng fy astudiaethau a fy ngwaith. Mewn pum mlynedd, hoffwn i’m prosiectau ysgrifennu presennol a’r rhai fydd i ddod fod yn ddigon llwyddiannus i fy ngalluogi i wneud ysgrifennu yn swydd llawn amser.

Nôl i Yr awduron sydd wedi eu cefnogi