Dewislen
English
Cysylltwch
Durre Shahwar

Mae Durre Shahwar yn 28 oed ac yn dod o Gaerdydd. Mae hi’n awyddus i ddilyn gyrfa ym maes naratif ffeithiol greadigol, ac mae hi’n awdures, siaradwraig ac ymchwilydd PhD. Mae ei gwaith yn edrych ar themâu hunaniaeth, dosbarth, materion queer, rhywedd, mudo ac iechyd meddwl, ac mae’r gwaith hwnnw wedi’i gyhoeddi mewn nifer o gylchgronau a detholiadau. Hi hefyd yw cyd-sylfaenydd Where I’m Coming From, yr unig gyfres o nosweithiau meic agored yng Nghymru sy’n rhoi llwyfan yn bennaf i awduron o liw. Mae Durre wrthi’n dilyn PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn gweithio ar greu ei llyfr cyntaf, sef gwaith naratif ffeithiol greadigol am hunaniaethau pobl o Dde Asia yng Nghymru.


Sut fydd y rhaglen o gymorth i’ch datblygiad fel awdur?

Bydd y rhaglen yn helpu drwy godi’r hyder yr wyf wedi’i golli dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Rwyf wedi bod yn treulio mwy o amser yn gweithio’n llawrydd ac yn astudio ac er bod hynny mewn meysydd creadigol, mae’r ysgrifennu wastad ar gyfer diben penodol sydd wedi ymwneud â gwaith/pwrpas cymunedol. Mae’r mwynhad a’r amcanion i gyhoeddi fy ngwaith fy hun a thrio pethau newydd wedi diflannu wrth i mi gynhyrchu er mwyn cynhyrchu. Byddai’r rhaglen yn rhoi’r caniatâd i mi gamu’n ôl a chanolbwyntio ar fy llyfr a byddai hefyd yn fy helpu i gredu yn fy ngallu fel awdur y tu hwnt i ngwaith yn y maes celfyddydol. Byddai hefyd yn fy ngalluogi i ganolbwyntio ar fy ngweledigaeth fy hun heb y pwysau o derfynau amser.

 

Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf o ran y rhaglen? Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni wrth gymryd rhan yn y rhaglen?

Rwy’n edrych ymlaen at gysylltu ag awduron eraill a mynychu dosbarthiadau meistr a fydd yn fy ysbrydoli i ysgrifennu, yn ogystal â chael fy mentora gan awdur. Gobeithiaf hefyd y bydd y rhaglen yn fy helpu i oresgyn rhwystrau megis gwybod sut i gael gafael a sut i siarad â ar asiantau, cyhoeddwyr a gweithwyr eraill yn y diwydiant i sicrhau bod fy llyfr yn mynd i’r lle cywir unwaith mae’n barod.

 

Fel awdur, ble hoffech chi fod ymhen pum mlynedd?

Fy nod am y 2-3 blynedd nesaf yw dod o hyd i asiant a chyhoeddi fy llyfr. Rwyf hefyd yn gobeithio llunio a golygu antholeg sy’n cynnwys gwaith gan fenywod o liw ar natur a’n perthynas â hynny, ond yn bennaf oll, rwyf am ganolbwyntio ar gyhoeddi fy llyfr cyntaf. Mewn 5 mlynedd, hoffwn gael fy adnabod fel awdur llyfrau fy hun, a hoffwn fynychu nifer o ddigwyddiadau a siarad fel rhan o banel.

Nôl i Yr awduron sydd wedi eu cefnogi