Dewislen
English
Cysylltwch
Hanan Issa

Mae Hanan Issa yn 34 oed ac yn dod o Gaerdydd. Mae hi’n awdures, yn fardd ac yn artist, yn ogystal ag yn gyd-sylfaenydd cydweithfa meic agored Where I’m Coming From. Cyhoeddwyd ei phamffled cyntaf, My Body Can House Two Hearts, gan Burning Eye Books. Mae ei gwaith wedi’i berfformio a’i gyhoeddi ar blatfformau fel BBC Wales, ITV Wales, Huffington Post, Gŵyl StAnza, Poetry Wales, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r British Council. Ynghyd â’i ffilm naratif fer, The Golden Apple, mae hi ar hyn o bryd yn gweithio ar ddetholiad o ysgrifau, Welsh: plural, sy’n cael ei gyhoeddi gan Repeater Books, ynghyd â stori fer i blant a fydd yn rhan o The Mab gan Unbound, sy’n ailadrodd straeon y Mabinogi.


 

Sut fydd y rhaglen o gymorth i’ch datblygiad fel awdur?

Gobeithio y bydd y rhaglen yn fy ngwneud I’n ymwybodol o’m gwendidau ac yn fy nghynorthwyo I wella a datblygu fel artist ac awdur.

 

Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf o ran y rhaglen? Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni wrth gymryd rhan yn y rhaglen?

Cwrdd ag awduron eraill a dysgu am eu gwaith.

 

Fel awdur, ble hoffech chi fod ymhen pum mlynedd?

Mae gwaith yn aml yn gorfod bod yn gymeradwy ar gyfer y gynulleidfa gwyn er mwyn cael ei ystyried yn fasnachol lwyddiannus. Hoffwn ddylanwadu ar y diwydiant i fod o ddrifri yn fwy cynhwysol yn y ffordd yr ydym yn gweld y straeon sy’n cael eu hadrodd.

Nôl i Yr awduron sydd wedi eu cefnogi