Dewislen
English
Cysylltwch
Marvin Thompson

Ganed Marvin Thompson yn Llundain i rieni Jamaicaidd, ac mae erbyn hyn yn byw ac yn gweithio yn ne Cymru. Ef yw enillydd cystadleuaeth National Poetry Competition y Poetry Society yn 2020, ac ef oedd y bardd o liw cyntaf i ennill y wobr ers 1981. Mae ei gyfrol farddoniaeth gyntaf, Road Trip (Peepal Tree Press, 2020) yn cael ei hargymell gan y Poetry Book Society, ac fe ddewisiwyd y gyfrol fel llyfr y flwyddyn 2020 gan bapur newydd The Telegraph.

 

Sut fydd y rhaglen o gymorth i’ch datblygiad fel awdur?

Mae gen i ddiddordeb mawr yn yr agweddau canlynol ar y cynllun mentora: rhwydweithio, marchnata, cyfranogiad cymunedol a chynrychiolaeth / cydraddoldeb. Rwy’n awyddus i rannu’r hyn rwy’n ei ddysgu ar y rhaglen a lledaenu’r dysgu hwnnw i eraill. Yn hynny o beth, rwy’n awyddus i archwilio cyfranogiad cymunedol ar ffurf gweithdai ysgrifennu cymunedol. Yn y tri neu bedwar gweithdy rydw i wedi’u hwyluso hyd yma yn fy ngyrfa ysgrifennu, bu diffyg amrywiaeth ymhlith y cyfranogwyr. Yn hynny o beth, rwy’n awyddus i ddod o hyd i ffyrdd o estyn allan i gymuned fwy amrywiol o feirdd. Rwy’n teimlo bod hyn yn bwysig oherwydd bod amrywiaeth mewn allbwn llenyddol yn cyfoethogi Cymru fel cenedl. Yn fy ngweledigaeth ar gyfer fy nghyfranogiad ar y rhaglen hon, rwy’n gweld fy hun yn ychwanegu at fy sgiliau rhwydweithio a marchnata. Bydd hyn nid yn unig yn rhoi hwb i’m gyrfa ond hefyd yn helpu i sefydlu amrywiaeth yn niwylliant llenyddol Cymru. Un o fy uchelgeisiau allweddol yw cael cerdd neu lyfr ar restr Llenyddiaeth Saesneg CBAC (TGAU neu Lefel A). Ar hyn o bryd, nid oes gan y rhestrau hyn amrywiaeth. Rwy’n teimlo y gallai fy ngwaith gael ei ddefnyddio i lenwi’r bwlch amrywiaeth hwn.

 

Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf o ran y rhaglen? Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni wrth gymryd rhan yn y rhaglen?

Fel bardd cyhoeddedig, rwyf ar ddechrau fy ngyrfa. Os ydw i am gyflawni fy uchelgais o fod yn un o fawrion llenyddol Cymru, mae gen i lawer o ddysgu i’w wneud. Bydd perthynas fentora blwyddyn o hyd yn rhan sylfaenol o’r broses ddysgu hon. Bydd y cynllun hwn hefyd yn fy helpu i gyflawni fy nod mwy uniongyrchol o ddod yn fardd gwell. Bardd sy’n fwy disgrifiadol, yn fwy cerddorol ac yn fwy beiddgar o ran yr iaith a’r ffurfiau barddonol rwy’n eu defnyddio i fynegi fy hun.

Rwyf wedi profi mentora fel rhan o fenter Primers Nine Arches Press. Yn ogystal, cefais fy mentora gan ffrind yn ystod ysgrifennu fy nghasgliad cyntaf. O ganlyniad, gwn y bydd fy lle ar eich cynllun mentora yn cael effaith enfawr ar fy ngyrfa ysgrifennu.

Credaf hefyd y bydd gwella fy sgiliau fel bardd yn cryfhau fy ngalluoedd fel adolygydd, golygydd a gwneuthurwr ffilmiau. Mae’r rhain i gyd yn gyfryngau ble mae fy ngwaith creadigol yn helpu i arallgyfeirio’r olygfa lenyddol yng Nghymru.

 

Fel awdur, ble hoffech chi fod ymhen pum mlynedd?

Fy mreuddwyd fel awdur yw dod yn un o gewri llenyddol Cymru. Rhywun i siarad amdano yn yr un anadl â Charlotte Williams neu Owen Sheers. Byddai hefyd yn gyflawniad gwefreiddiol i ddilyn ôl eu traed trwy ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn. Fodd bynnag, mae fy ffocws cychwynol ar ddod yn fardd mwy medrus. Rwy’n awyddus i ennill meistrolaeth dros ffurfiau pennill iaith fel sestinas a villanelles. Rwyf hefyd yn awyddus i ddysgu mwy am ffurfiau pennillion Cymreig a sut y gellir eu defnyddio mewn cyd-destun iaith Saesneg.

Er bod gan Gymru draddodiad cyfoethog o farddoniaeth, prin yw’r beirdd lliw Cymreig sy’n cael eu darllen a’u dathlu’n eang. Yn hyn o beth, rwyf am fod yn gatalydd ar gyfer newid. Er fy mod i’n Llundeiniwr, Cymru yw cartref fy mhlant treftadaeth ddeuol (llys-blant a phlant biolegol). Yn hynny o beth, mae gen i ran yng Nghymru fel cenedl groesawgar sy’n dathlu gwahaniaeth – ac ar ben hynny, wrth helpu ei diwylliant llenyddol i ddod yn fwy cynhwysol ac i ffynnu.

Fel rhan o fy ymdrech i helpu i arallgyfeirio a chyfoethogi tirwedd lenyddol Cymru, rwy’n awyddus i drosi mwy o fy ngwaith i’r Gymraeg. Rwy’n teimlo ei bod yn bwysig rhannu fy syniadau am hunaniaeth, treftadaeth a Chymraeg â chymunedau ledled ein cenedl. Yn wir, edrychaf ymlaen at y diwrnod pan fydd fy llyfrau’n cael eu cyfieithu i’r Gymraeg fel mater o drefn. Unwaith eto, mae uchelgais o’r fath yn dibynnu ar y wybodaeth fy mod eisoes yn gweithio’n ddiflino i sefydlu fy hun yn aelod deinamig o gymuned lenyddol Cymru. Rwyf am fod yn fodel rôl i bob awdur o Gymru.

Nôl i Yr awduron sydd wedi eu cefnogi