Dewislen
English
Cysylltwch

Dyfarnwyd marc safon Cynnig Cymraeg i Llenyddiaeth Cymru yn 2020 gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Fel cwmni cenedlaethol dwyieithog balch, rydym yn ymrwymedig i gynnig gwasanaeth safonol yn Gymraeg a’r Saesneg yn ôl dewis y cwsmer; i ddarparu prosiectau a chefnogi gwaith yn Gymraeg a Saesneg; ac i hybu’r Gymraega’i phwysigrwydd ym mhob agwedd o’n gwaith. Rydym yn ymrwymo yn benodol i’r addewidion canlynol:

  1. Bydd aelodau staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddelio ag ymholiadau ffôn, e-bost neu wyneb yn wyneb bob amser
  2. Bydd yr holl wybodaeth a gaiff ei gyhoeddi gennym ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol ar gael yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg
  3. Bydd ein prosiectau yn dathlu cyfoeth treftadaeth llenyddol Cymru yn y ddwy iaith, ac yn anelu i ddatblygu crefft awduron newydd i greu gwaith ysgrifennu creadigol da yn y Gymraeg a’r Saesneg gan annog diwylliant llenyddol a chelfyddydol hyfyw
  4. Byddwn yn anelu i gynorthwyo targed y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 drwy fuddsoddi mewn prosiectau cyffrous ac arloesol drwy gyfrwng y Gymraeg
  5. Drwy groesawu gwesteion i ganolfan ysgrifennu cenedlaethol Llenyddiaeth Cymru – Tŷ Newydd – o du hwnt i Gymru, byddwn yn eu haddysgu ynglŷn â’r Gymraeg a diwylliant Cymru

 

Pwysigrwydd y Gymraeg i ni a’n cwsmeriaid

Sefydliad dwyieithog yw Llenyddiaeth Cymru ac mae’n cefnogi llenyddiaeth ac awduron yn y Gymraeg a’r Saesneg, a ieithoedd eraill Cymru yn achlysurol. Mae’n darparu gweithgareddau a digwyddiadau Cymraeg eu hiaith ac yn sicrhau fod staff sy’n medru’r Gymraeg yn ei safleoedd yng Nghaerdydd a Llanystumdwy. Mae ein gwefan a’n delwedd gorfforaethol yn gwbl ddwyieithog ac mae croeso i’r cyhoedd ohebu â Llenyddiaeth Cymru yn y Gymraeg neu Saesneg.

Fel sefydliad sy’n ymwneud â hud geiriau bob dydd, mae ein hieithoedd yn chwarae rhan bwysig yn ein gwaith. Drwy roi parch a sylw i’n hieithoedd oll, byddwn yn sicrhau fod ein treftadaeth llenyddol amrywiol yn cael ei ddathlu a’i fwynhau gan genedlaethau i ddod. Byddwn yn datblygu awduron sy’n ysgrifennu o’r galon gyda’r geiriau sydd yn rhoi’r ystyr gorau i’w gwaith. A byddwn yn defnyddio pŵer ysgrifennu creadigol, darllen a pherfformio i roi llais i’r rhai sydd angen cymorth, ym mha bynnag iaith sy’n eu cynnal.

Ers ein sefydlu yn 2011, mae’r iaith Gymraeg yn chwarae rhan naturiol yn ein gwaith – yn iaith y swyddfa, yn iaith sy’n sbardun i brosiectau creadigol, yn iaith broffesiynol. Daw aelodau di-Gymraeg o’r tîm i’w deall yn sydyn, i’w siarad yn rhugl yn aml, a byddwn bob amser yn ei gosod ochr yn ochr â llenyddiaeth fel ein cyfrifoldeb a’n braint i’w dyrchafu a’i hybu. Rydym yn gwerthfawrogi’r creadigrwydd sydd ei gael o weithio yn ddwyieithog, gydag ymwybyddiaeth o dwy iaith yn aml yn cyfoethogi’n mynegiant.

 

 

Cynllun Datblygu'r Gymraeg

I ddarganfod mwy am ein cynnig darllenwch ein Cynllun Datblygu’r Gymraeg:

Cynllun Datblygu'r Gymraeg
Iaith: EnglishMath o Ffeil: PDFMaint: 4221KB