Dewislen
English
Cysylltwch

Mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, trefnodd Llenyddiaeth Cymru brynhawn creadigol yn Yr Ysgwrn i griw sy’n cael eu cefnogi gan elusen Hafal ym Mhorthmadog.

Cafwyd gweithdy ffotograffiaeth gyda’r ffotograffydd Lee Aspland. Mae Lee yn arbenigo mewn Ffotograffiaeth Myfyriol, a chafwyd gweithdy arbennig yn yr awyr agored o gwmpas Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd gyda’r grŵp. Mae Hafal yn elusen sydd yn cynnig cefnogaeth i bobl o oedrannau cymysg sy’n gwella o salwch meddwl dwys. Yn ogystal â dysgu am dechnegau ffotograffiaeth myfyriol, bu’r grŵp yn cymryd rhan mewn sesiwn fyfyrio byr dan arweiniad Lee. Yna, cafwyd cyfle i fynd o gwmpas i dynnu eu lluniau eu hunain cyn dod yn nol ar gyfer sesiwn gloi i rannu eu hoff luniau.

Yn dilyn y gweithdy ffotograffiaeth, cafwyd gweithdy ar ysgrifennu haikus gyda’r bardd a’r awdur Haf Llewelyn. Roedd yr haikus yn deillio o’r gweithdy ffotograffiaeth.

Nôl i Llên Pawb | Lit Reach