Dewislen
English
Cysylltwch

I gyd-fynd â chychwyn prosiect Llên Pawb, roedd Llenyddiaeth Cymru yn awyddus i ledu’r pwll o ymarferwyr llenyddol sydd â’r sgiliau a’r hyder i arwain mewn ar brosiectau llên yn y gymuned. Ar ddydd Sul 4 Chwefror, daeth criw o feirdd, awduron ac ymarferwyr creadigol o bob cwr o ogledd a chanolbarth Cymru i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ar gyfer diwrnod o hyfforddiant i ddatblygu sgiliau hwyluso ar gyfer iechyd a llesiant yn y gymuned.

Yn y bore, cwyd sesiwn hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o ddiogelu gan Gwenan Gruffydd o Ganolfan Y Bont ac yn y prynhawn cafwyd gweithdy dan arweiniad y therapydd barddoniaeth Jill Teague.

 

Diolch am y cyfle i gael treulio diwrnod yn Nhŷ Newydd yn trafod ysgrifennu ar gyfer Lles. Roedd yn ddiwrnod o hyfforddiant gwerthfawr a chyfraniad y ddwy oedd yn arwain yn hynod o ddifyr a phwrpasol.  Yn y bore cafwyd gwybodaeth ymarferol yn ymwneud â Gofal a Lles – hyfforddiant angenrheidiol wedi ei roi yn glir.  Yna cafwyd cyfle i drafod sut y gallwn ddefnyddio llenyddiaeth i agor drysau’r meddwl ac i fynegi safbwyntiau, pryderon a theimladau, a hynny mewn dull cynhaliol a braf. Diolch i’r ddwy fu’n arwain – i Gwenan Gruffydd am ei dull di-lol, ymarferol ond trylwyr, ac i Jill Teague am ein hysbrydoli yn greadigol.

Haf Llewelyn

 

Hoffwn ddiolch i chi am y cyfle i ddod ar y cwrs gwerthfawr yma. Roedd y sesiwn bore efo Gwenan o Y Bont yn werthfawr iawn i rywun sy’n gweithio yn llawrydd ac felly ddim yn aml yn cael arweiniad ar faterion yn ymwneud a diogelwch ac amddiffyn plant ac oedolion bregus. Roedd yn gontrast da gyda’r sesiwn prynhawn pan gafwyd cyfle i brofi technegau ac arferion fydd yn ddefnyddiol iawn ar gyfer ein “tool kit” arweinwyr sesiynau sgwennu. Yn bennaf oll diolch am y cyfle i ddod ynghyd efo ymarferwyr ysbrydoledig o amrywiol gefndiroedd a phrofiad a hynny mewn awyrgylch mor braf a croesawgar. Mi nes i wirioneddol fwynhau.

Rhian Cadwaladr

Nôl i Llên Pawb | Lit Reach