Dewislen
English
Cysylltwch

Ers blynyddoedd bellach mae elusen Macmillan, a’u gwasanaeth yn Llyfrgell Llanrwst, wedi cefnogi aelodau o gymuned y dref sydd wedi’u heffeithio gan ganser neu glefydau cronig. Mae Llên Pawb, mewn partneriaeth â Macmillan, Cyngor Conwy a Llyfrgelloedd Conwy, wedi cynnal prosiect wyth wythnos o hyd, ar gyfer aelodau o’r gymuned honno.

Cafodd y prosiect, a oedd yn cyfuno elfennau o farddoniaeth a chelf weledol, ei arwain gan yr awdur a’r arweinydd theatr Cefin Roberts a’r therapydd celf ac artist Sian Hutchinson. Ysbrydoliaeth themâu’r prosiect oedd ymgyrch ‘Rydw i hefyd yn..’ gan Macmillan.

Mae penllanw’r prosiect, sydd ar ffurf baneri, sy’n cynnwys y casgliad o gerddi haiku a ysgrifennwyd gan y grŵp mewn gludweithiau, i’w gweld yn Llyfrgell Llanrwst.

Nôl i Llên Pawb | Lit Reach