Dewislen
English
Cysylltwch

Os na allwch weld ateb i’ch cwestiwn, e-bostiwch Llenyddiaeth Cymru ar post@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch ni am sgwrs anffurfiol ar 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd).  

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w lawrlwytho ac mae ar gael mewn print bras ac mewn fformatau sy’n gyfeillgar i unigolion â dyslecsia ar ein tudalen Lawrlwytho. 

Cwestiynau Cyffredin

Pwy sy'n gymwys i ymgeisio?

Mae’r cyfle hwn ar gyfer awduron o Gymru dros 18 oed sy’n Fyddar a/neu’n Anabl a/neu’n Niwroamrywiol yn ôl y *model cymdeithasol o anabledd. 

*Mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn nodi bod pobl yn anabl oherwydd rhwystrau mewn cymdeithas, nid gan eu nam neu wahaniaeth.

Rydym yn croesawu cais gennych chi os ydych chi’n awdur ymroddedig ar gychwyn eich gyrfa sy’n gobeithio datblygu eich sgiliau ysgrifennu, neu’n awdur mwy profiadol sydd â’r bwriad o ailddyfeisio’ch prif gymeriadau. Mae’r cwrs yn berthnasol i awduron o bob genre, gan gynnwys barddoniaeth, rhyddiaith, ffeithiol a sgriptio. 

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Fodd bynnag, rydym yn croesawu awduron sy’n ysgrifennu’n bennaf yn Gymraeg. Bydd y sgiliau a’r grefft y byddwch yn eu dysgu ar y cwrs yn berthnasol i ysgrifennu creadigol ym mhob iaith. Ar gyfer awduron Byddar, byddwn yn gofyn i chi rannu eich gofynion mynediad gyda ni, ac yn sicrhau y bydd dehongliad BSL yn bresennol, neu wasanaeth capsiwn byw ar gael – yn dibynnu ar eich dewis. 

Sut fyddwch chi'n sicrhau bod fy ngofynion yn cael eu bodloni a'm bod i'n gallu cymryd rhan lawn yn y rhaglen hon?

Mae profiadau a gofynion pob person yn unigryw, a’n gobaith yw bod ein rhaglenni yn adlewyrchu hynny. Er mwyn sicrhau ein bod ni’n gwneud ein gorau i sicrhau bod pob cyfranogwr yn cael y profiad gorau bosib yn ystod y rhaglen hon, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i anfon dogfen hygyrchedd atom, i helpu i roi gwybod i ni am y cymorth y bydd ei angen arnoch i allu cymryd rhan yn y cwrs. Gallwn ddarparu templed os fyddai hynny o gymorth, a bydd staff o Llenyddiaeth Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru wrth law i helpu.

Cynhelir yr encil penwythnos yn Nhŷ Newydd rhwng dydd Gwener 27 – dydd Sul 29 Mawrth 2026. Byddwn yn sicrhau bod eich taith i, a’ch arhosiad yn, Tŷ Newydd mor gyfforddus, diogel a hygyrch â phosibl ar gyfer eich anghenion. Gallai hyn gynnwys sicrhau ystafell hygyrch, ystyried seibiannau yn y rhaglen, talu am gyfieithydd neu groesawu cynorthwyydd personol.

Gyda’ch caniatâd, byddwn yn cyfleu unrhyw wybodaeth berthnasol am eich anghenion neu ofynion i’r tiwtor naill ai cyn yr encil, neu yn ystod yr encil yn ôl yr angen, a byddwn yn cefnogi’r tiwtor os oes angen gwneud unrhyw newidiadau. Efallai y byddwn yn awgrymu cyfarfod anffurfiol rhyngoch chi, y staff a’r tiwtor ar ôl cyrraedd i drafod y dyddiau i ddod i wneud yn siŵr eich bod yn hapus.

Aelodau staff fydd y prif bwynt galw ar gyfer mynediad a materion iechyd neu lesiant yn ystod arhosiad preswyl.

Mae gen i anabledd sy'n ei gwneud hi'n anodd i mi wneud cais am y cyfle hwn. Gallwch chi helpu? 

Bydd staff Llenyddiaeth Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru ar gael i ateb eich cwestiynau yn ystod sesiwn digidol anffurfiol a gynhelir ddydd Mawrth, 4 Tachwedd am 1.00pm-2.00pm.

Mae croeso hefyd i chi gysylltu â Llenyddiaeth Cymru neu Chelfyddydau Anabledd Cymru i drafod unrhyw fater sy’n ei gwneud hi’n anodd i chi wneud cais am y cyfle hwn.

Llenyddiaeth Cymru: post@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch ni am sgwrs: 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd) neu 02920 472266 (Swyddfa Caerdydd). Celfyddydau Anabledd Cymru: post@disabilityarts.cymru.

A allaf wneud cais am fwy nag un cyfle datblygu awduron gyda Llenyddiaeth Cymru?

Gallwch. Ond oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn derbyn i bob cyfle, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi fod yn ymwybodol o brif amcanion pob un, fel y gallwch wneud cais i’r un mwyaf perthnasol ar gyfer eich cam datblygu presennol.

Mae Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad yn encil ysgrifennu dwys i ddatblygu sgiliau 8 awdur Byddar/Anabl a/neu Niwroamrywiol. Fe’i harweinir gan Kaite O’Reilly ac mae’n canolbwyntio’n benodol ar sut i fod yn fwy cynhwysol a chynrychioliadol wrth greu cymeriadau, persbectifau, naratifau a bydoedd ffuglennol. Mae ar gyfer awduron Byddar a/neu Anabl a/neu Niwroamrywiol i ehangu eu sgiliau creadigol, ac i’r rhai nad ydynt wedi archwilio eu hunaniaeth anabl eto i fynegi eu profiad bywyd. Mae encil penwythnos yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, ac yna tiwtorial un-i-un gyda Kaite a sesiwn rhannu gyda phawb.

Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen 12 mis sy’n darparu cyfleoedd datblygu i 12 awdur sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd yn y sector llenyddiaeth yng Nghymru. Mae’n rhaglen hyfforddi ddwys ar grefft ac ar ddatblygu gyrfa broffesiynol sy’n cynnwys dosbarthiadau meistr a gweithdai gan awduron byd-enwog, ystafelloedd ysgrifennu ar-lein, a phenwythnos preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys mentor personol ac ysgoloriaeth.

Mae Sgwennu’n Well yn rhaglen ddatblygu 15 mis ar gyfer 6 hwylusydd llenyddol yng Nghymru. Ei ffocws yw datblygu a gwella’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i hwyluso gweithgareddau llenyddol yn y gymuned, yn benodol ym maes Iechyd a Llesiant. Mae’r rhaglen mewn dwy ran ac fe’i cynigir yn flynyddol i awduron. Mae rhan un yn cynnig hyfforddiant a mentora dwys, ac mae rhan dau yn cefnogi’r garfan o hwyluswyr i greu a chyflwyno prosiectau cyfranogol sy’n fuddiol i iechyd a llesiant y cyfranogwyr.

A oes angen profiad arnaf i wneud cais? Neu ydw i'n rhy brofiadol? 

Rydym yn bennaf yn chwilio am awduron ymroddedig neu unigolion ar ganol eu gyrfa sydd â photensial mawr. Nid oes angen profiad helaeth o ysgrifennu arnoch o reidrwydd, dim ond syniadau da ac agwedd gadarnhaol a phenderfynol. Fel unrhyw grefft arall, gall ysgrifennu fod yn heriol ac mae angen llawer o ymdrech ac amynedd. Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i barhau ar eich taith fel awdur. Bydd Llenyddiaeth Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru wrth law i gynnig cefnogaeth yr holl amser.

Fodd bynnag, os ydych eisoes yn awdur profiadol (er enghraifft, efallai eich bod wedi cyhoeddi pamffled neu lyfr) efallai y byddwch yn dal i deimlo bod rhwystrau sy’n eich atal rhag cyrraedd eich llawn botensial, neu efallai yr hoffech arbrofi gyda genre, ffurf neu iaith arall. Bydd gan bawb ddiffiniad gwahanol o brofiad, a lle maent arni ar eu taith fel awdur.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi wneud cais? 

Caiff ceisiadau eu hasesu gan banel o staff sy’n cynrychioli Llenyddiaeth Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru yn ogystal â’r tiwtor, Kaite O’Reilly. Byddwn yn hysbysu pob ymgeisydd erbyn diwedd Ionawr 2026, pa un ai ydynt yn llwyddiannus ai peidio. Byddwn yn dewis hyd at wyth awdur llwyddiannus ar gyfer y cwrs.

Bydd ein penderfyniad yn seiliedig ar ansawdd a photensial eich gwaith, ar wreiddioldeb eich cais, ac ar eich dealltwriaeth o ddiben y cwrs a sut y gallai effeithio ar eich datblygiad proffesiynol fel awdur. Er mwyn sicrhau carfan amrywiol o awduron, efallai y byddwn hefyd yn ystyried lleoliad daearyddol, nodweddion gwarchodedig datganedig, ieithoedd, ac a ydych wedi derbyn cyfleoedd tebyg yn y gorffennol.

Os byddaf yn aflwyddiannus, a fyddaf yn derbyn adborth? 

Gan ein bod yn disgwyl llawer o geisiadau, efallai na fyddwn yn gallu cynnig adborth manwl i bob ymgeisydd. Fodd bynnag, lle bo’n bosibl byddwn yn darparu adborth byr, personol, ac yn cynghori ar gyfleoedd eraill ar gael gan Llenyddiaeth Cymru a’n partneriaid.

Rydym yn ymwybodol y gall gohebiaeth ynghylch ceisiadau aflwyddiannus gael effaith negyddol ar eich iechyd a’ch lles. Rhoddwn ein haddewid i barchu a gwerthfawrogi pob cais unigol, gan roi ystyriaeth a sylw dyledus iddo.

Bydd tîm bychan o staff Llenyddiaeth Cymru yn cael mynediad at eich gwaith creadigol a gyflwynwyd fel rhan o’ch cais. Yn unol â’n strategaeth sgowtio talent, mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu yn y dyfodol â chyfleoedd personol, yn seiliedig ar eich gwaith a’ch arbenigedd. Er mwyn galluogi Llenyddiaeth Cymru i gydymffurfio â chyfraith diogelu data (GDPR), cwblhewch yr adran berthnasol ar ddiwedd y ffurflen gais i roi gwybod i ni os nad ydych am i Llenyddiaeth Cymru gysylltu â chi ynglŷn â chynigion yn y dyfodol.

Beth fydd ei angen arnaf i gymryd rhan? 

Mae Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad yn cynnwys cwrs preswyl, tiwtorial un-i-un dilynol, a digwyddiad rhannu ar-lein. Bydd angen i bob cyfranogwr ymrwymo’n llawn i bob rhan.

Ar gyfer y cwrs preswyl, dewch ag unrhyw offer neu gyfarpar ysgrifennu yr hoffech eu defnyddio. Gallai hyn gynnwys llyfrau nodiadau, gliniaduron, tabledi, dyfeisiau Braille, recordwyr llais, neu unrhyw fformat arall sy’n cefnogi eich proses greadigol.

Os oes angen cymorth arnoch gydag offer neu fynediad, mae croeso i chi roi gwybod i ni ymlaen llaw — rydym yn hapus i helpu i wneud i bethau weithio i chi.

Bydd y tiwtorial un-i-un yn digwydd ar y platfform digidol, Zoom, a caiff ei drefnu ar ddiwrnod ac amser cyfleus i chi a Kaite ym mis Mehefin. Gallwch ymuno â Zoom am ddim, neu gallwch ymuno fel gwestai. I gymryd rhan, bydd angen dyfais gyda meicroffon a gwe-gamera arnoch chi (e.e. ffôn symudol, gliniadur, neu gyfrifiadur) yn ogystal â chysylltiad cryf a sefydlog â’r rhyngrwyd. Rhowch wybod inni os y bydd defnyddio Zoom yn drafferthus ichi os gwelwch yn dda.

Yn ogystal â sicrhau eich bod wedi neilltuo amser ar gyfer y dysgu ffurfiol yn ystod yr encil a’r sesiwn un-i-un, bydd angen i chi hefyd ystyried yr amser y bydd ei angen arnoch i gymhwyso’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu i’ch ysgrifennu a datblygu eich prosiectau ysgrifennu yn eich amser eich hun.

A oes cost am y cwrs hwn? 

Nag oes. 

Beth fydd yn digwydd ar ôl i'r cwrs ddod i ben? 

Mewn partneriaeth â Chelfyddydau Anabledd Cymru, byddwn yn hwyluso rhaglen ôl-ofal i annog datblygiad yr awduron ar ôl i’r cwrs ddod i ben. Byddwn hefyd yn annog y garfan i barhau i gyfarfod ar-lein ar ôl y cwrs, i drafod cynnydd, rhwystrau, arfer da, ac i rannu gwaith sydd ar y gweill.

Bydd Llenyddiaeth Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru yn rhannu cyfleoedd datblygu a chyhoeddi pellach gyda phawb sy’n rhan o’r cwrs pan bydd rhai perthnasol yn codi.

Nôl i Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad: Cyfle i Awduron Byddar a/neu Anabl a/neu Niwroamrywiol