Dewislen
English
Cysylltwch
Yn ystod tymor ysgol haf 2021 bu’r beirdd a’r awduron Anni LlŷnTaylor EdmondsGruffudd Owen ac Eloise Williams yn cynnal gweithdai creadigol gyda disgyblion o 24 ysgol gynradd o Fôn i Fynwy er mwyn creu cerdd arbennig ar gyfer Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd.

Derbyniodd Llenyddiaeth Cymru gomisiwn gan Senedd Cymru i gydlynu prosiect creadigol Dy Lais – Your Voice gyda phlant a phobl ifanc fel rhan o ddathliadau Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd. Bydd y gerdd a ddeilliodd o’r prosiect yn cael ei darllen am y tro cyntaf gan gyn aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru fel rhan o Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd ddydd Iau 14 Hydref ym Mae Caerdydd. Gallwch wylio’r cyfan yma.

Ynghyd â llunio cerdd, nod prosiect Dy Lais – Your Voice oedd cynnig cyfle i’r plant ddysgu mwy am waith y Senedd; dysgu sut y gall lleisiau plant a phobl ifanc gael eu clywed a holi sut le fydd Cymru’r dyfodol.

Cynhaliwyd dau weithdy gyda 24 ysgol gynradd o bob cwr o’r wlad, un o bob awdurdod lleol yng Nghymru. Aeth y beirdd a’r awduron ati i lunio cerdd unigol gyda phob ysgol oedd yn rhan o’r prosiect cyn i Gruffudd Owen olygu’r cyfan i greu cerdd ddwyieithog sy’n darlunio pwy yw plant Cymru 2021 a beth yw eu gobeithion at y dyfodol.

Mae modd darllen a lawrlwytho’r gerdd gyflawn, ynghyd â’r fersiwn byr sy’n cael ei darllen yn agoriad y Senedd, ar ddiwedd y ddalen hon.

 

Yr awduron

Arweiniwyd y prosiect gan bedwar bardd ac awdur profiadol a chyffrous:

Mae Anni Llŷn yn awdur, bardd, cyflwynydd, sgriptwraig, ymarferydd creadigol a chyn Fardd Plant Cymru o Lŷn ac mae hi’n wyneb cyfarwydd ar y sgrin a’r llwyfan yng Nghymru.

Taylor Edmonds yw Bardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru; y mae’n dod o Benarth ac yn gweithio fel bardd a  hwylusydd creadigol.

Gruffudd Owen oedd Bardd Plant Cymru 2019-2021, daw o Bwllheli ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae’n awdur a golygydd llawrydd ac yn 2018, enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd.

Eloise Williams oedd Children’s Laureate Wales 2019-2021. Y mae’n awdur nofelau i blant a phobl ifanc sydd wedi ennill g wobrau lu. Fe’i magwyd yn Rhondda Cynon Taf ac mae hi bellach yn byw yn Sir Benfro.

 

Y gweithdai

Cynhaliwyd dau weithdy gyda’r 24 ysgol; roedd y gweithdy cyntaf ar ffurf fideo ac yn gyflwyniad i’r Senedd, beth sy’n digwydd yno a sut mae’n effeithio ar ein bywydau ni. Mae’r gweithdy rhithiol hwn, a grëwyd gan y beirdd, yn cynnwys llawer o weithgareddau rhyngweithiol i ddisgyblion eu dilyn fel dosbarth.

 

Gweithdy 1

Mae modd i ysgolion ledled y wlad ddilyn y gweithdy cyntaf, er mwyn i ragor o blant Cymru ddysgu mwy am waith ein Senedd a phwysigrwydd eu llais. Mae’r gweithdy a chanllawiau i athrawon isod.

Gweithdy 2

Cynhaliwyd yr ail weithdy gan un o bedwar bardd y prosiect, un ai yn rhithiol neu wyneb yn wyneb. Yn y gweithdy hwn roedd y plant yn llunio cerdd gyda’r bardd. Cafwyd adborth hyfryd am y prosiect gan yr ysgolion:

Meddai Ysgol Mount Stuart, Caerdydd, “Roedden ni’n falch iawn o’n cerdd ac roedd hi wir yn cynrychioli pwy ydyn ni, beth ydyn ni fel ysgol eisiau i’n disgyblion a beth mae’r disgyblion eisiau eu hunain! Roedd y plant yn gwrando yn astud, ac yn teimlo fel bod y bardd yn gwrando ar eu lleisiau nhw hefyd. Roedd gweithio gyda bardd talentog, go iawn yn ysbrydoliaeth enfawr. Roeddwn i’n teimlo’n emosiynol iawn yn gwrando ar y gerdd ar ddiwedd y gweithdy ac rwy’n edrych ymlaen at ddarllen y drafft terfynol.”

 

Meddai Ysgol y Santes Fair, Casnewydd, “Rhoddodd y prosiect yma hyder i’r plant yn fy nosbarth fod â barn am faterion mawr sy’n mynd i effeithio eu dyfodol – mae wedi eu grymuso i fod yn ddinasyddion gwybodus a moesegol gyda’u lleisiau.”

Yr ysgolion

Y 24 ysgol gynradd a fu’n rhan o brosiect Dy Lais – Your Voice oedd:

Cogan School, Bro Morgannwg

Croesyceiliog Primary School, Torfaen

Llandogo Primary School, Sir Fynwy

Mount Stuart School, Caerdydd

Pantside Primary School, Caerffili

Penyrenglyn Community Primary School, Rhondda Cynon Taf

Plasnewydd Primary School, Pen-y-Bont

St Mary’s Roman Catholic School, Blaenau Gwent

St Mary’s School, Casnewydd

Tairgwaith Primary School, Castell-nedd Portalbot

Trelewis School, Merthyr Tudful

Ysgol Betws Gwerful Goch, Sir Ddinbych

Ysgol Bro Hyddgen, Powys

Ysgol Capel Garmon, Conwy

Ysgol Cenarth, Ceredigion

Ysgol Dolafon, Powys

Ysgol Esceifiog, Ynys Môn

Ysgol Gymraeg Lôn Las, Abertawe

Ysgol Gymraeg Mornant, Sir y Fflint

Ysgol ID Hooson, Wrecsam

Ysgol Llannon, Sir Gaerfyrddin

Ysgol Maenclochog, Sir Benfro

Ysgol Mynydd Bychan, Caerdydd

Ysgol y Garreg, Gwynedd

 

Adnoddau

Canllaw i Athrawon - Cymraeg
Iaith: WelshMath o Ffeil: PDFMaint: 711KB
Canllaw i Athrawon - Saesneg
Iaith: EnglishMath o Ffeil: PDFMaint: 677KB
Ein Llais - Y Gerdd
Iaith: EnglishMath o Ffeil: PDFMaint: 87KB
Ein Llais - Y Gerdd (Fersiwn Byr)
Iaith: EnglishMath o Ffeil: PDFMaint: 67KB
Nôl i Archif Prosiectau