O’r diwedd distawodd y gynnau. Trwy’r distawrwydd beichus
roedd sŵn y galaru’n eglurach. Trochwyd y byd
mewn dagrau a gwaed, ac ar ôl y fath ddifa eithafol,
roedd yr enwau ar goll drwy’r ddaear anwar i gyd,
cyfenwau dinod nad oedd yr un cofnod ohonynt
ac eithrio yng ngweddïau mamau yn oriau’r nos;
y miliynau o enwau a yrrid ar amlenni unwaith
o gartrefi gwâr i gyrraedd gorffwylltra’r ffos.
A gofynnodd rhai, ‘Beth a wnawn â’r holl enwau hyn?
Byddai gadael y rhain yng ngwledydd estroniaid yn sen.
Mae’n rhaid inni gludo’u henwau i’w gwlad eu hunain,
hel yr holl enwau ynghyd oddi ar groesau o bren.’
Ac atebodd eraill, ‘Cofnodwch ac achubwch eu haberth,
rhag angof, ymhob tref a phentref, trwy eu coffáu;
â chŷn, ysgythrwch eu henwau ar feini yn hytrach
nag ar ddarnau o bren, fel y bydd i’r enwau barhau.’
A bu’r seiri’n brysurach nag erioed, yn aredig y cerrig,
ac yn hau’r holl lythrennau fel hadau ar hyd pob maen,
nes i’r enwau finiocáu llafn y cŷn, fel y gallai dorri
rhagor a rhagor o enwau, gan ddifwyno’r graen;
ac â’u cynion aflonydd bu’r cerflunwyr hwythau yn naddu
delwau o filwyr mewn efydd a charreg â chŷn
a hogwyd ar galonnau mamau, y maen ymhob mynwes,
ac fel hyn y coffawyd y bechgyn nad aent fyth yn hŷn.
Ond gofynnodd rhywun, ‘Beth am y mamau galarus,
y mamau a gysgai ym meddau eu meibion mud,
y mamau a roddodd eu henwau a’u hanadl i’w bechgyn?’
Ond roedd enwau eu meibion yn hawlio’r gofeb i gyd
ac nid oedd yr un mymryn o ofod i enwi’r mamau
er mai’r rhyfel a’u hawliodd hwythau, a pheri eu lladd
o dorcalon, o hiraeth creulon, a phob bedd fel crud,
trengi, heb i gŷn eu henwi ar y garreg nadd.
‘Ond beth am y rhai a fynnai eu difa eu hunain
yn hytrach na difa eraill ar feysydd y tân,
y rhai a ddewisodd y rhaff yn hytrach na’r uffern
lle rhwygid yr hogiau yn ddarnau, yn ysgyrion mân,
a’r tadau a holltodd arddyrnau, o ddwyn oddi arnynt,
eu meibion yn anterth eu dyddiau, nes i’w dyddiau droi’n staen?’
Hyn, yn annoeth o ddewr, a ofynnodd eraill,
ond lle i’r un enaid llwfr nid oedd ar y maen.
A gofynnodd rhywun, ‘Beth am y Duw a’n gadawodd
drwy gydol yr Armagedon, drwy’r blynyddoedd blin,
y Duw a fu farw’n y rhengoedd, y Duw a lofruddiwyd
yn nydd dadwneud y cenhedloedd, a’n gwareiddiad yn grin?’
A daeth rhywun ag ateb: ‘Ei gofeb yw’r ddaear i gyd,
nid oes maen digon mawr i’w enw, fel y cedwir yn fyw,
ei enw, fel yr enwau eraill, ac oherwydd hynny,
bydded y beddau oll yn gofeb i Dduw.’
Ac felly y bu. Gweddnewidiwyd pob tref a phentref;
codwyd cofebau i feibion y mamau mud;
diogelwyd yr enwau am byth, diogelwyd y galar;
un gofeb oedd y ddaear gyfan, un cofadail o fyd,
a’r enwau, y miloedd o enwau, yr enwau diddiwedd,
roedd y rheini yn gaeth yn y meini, yr holl enwau rhad
yn glòs, yn frawdgarwch ar gerrig, ond yr enwau eraill
ar goll drwy’r ddaear i gyd, heb yr un coffâd.
Alan Llwyd
(Gallwch ddarllen cyfieithiad Saesneg o’r gerdd hon yma)
Gwybodaeth am Alan Llwyd
Mae Alan Llwyd ar hyn o bryd yn Athro yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe. Mae’n awdur ac yn olygydd 71 o lyfrau. Rhwng 2011 a 2016, cyhoeddodd gyfres o gofiannau i rai o feirdd a llenorion pwysicaf Cymru, gan ddechrau gyda’i gofiant dadleuol, ond aruchel ei glod, i Kate Roberts (2011), wedyn ei gofiannau i R. Williams Parry (2013), Waldo Williams (2014), Gwenallt (2016), a fersiwn newydd sbon o’i gofiant i Hedd Wyn (2014). Ef hefyd yw awdur sgript y ffilm enwog, Hedd Wyn. Yn 2018 cyhoeddwyd Colli’r Hogiau, ei astudiaeth swmpus o effaith y rhyfel hwnnw ar Gymru.