Dewislen
English
Cysylltwch

Fel rhan o ddigwyddiad Estyn yn Ddistaw yn y Senedd ar 19 Chwefror 2019, comisiynodd Llenyddiaeth Cymru y darlithoedd canlynol:

 

‘Where is war poetry?’ gan Nerys Williams

Traddodwyd y ddarlith hon yn Saesneg. Cliciwch yma i’w darllen yn y Saesneg.
Cliciwch yma i ddarllen cyfieithiad Cymraeg ohoni. 

Mae’r ddarlith hon yn archwilio sut y mae cerddi o Gymru ac America yn trin gofod a lleoliad. Mae’r drafodaeth yn archwilio cerddi o’r Rhyfel Byd Cyntaf a rhai sy’n ymateb i ryfeloedd yn Iraq ac Afghanistan.

Yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, mae Nerys Williams yn Athro Cysylltiol mewn Llenyddiaeth Americanaidd yng Ngholeg Prifysgol Dulun. Mae wedi ysgrifennu llawer am farddoniaeth gyfoes ac wedi cyhoeddi dwy gyfrol o gerddi Sound Archive (Seren, 2011) a Cabaret (New Dublin Press, 2017). Mae Nerys yn byw yn Kells Co. Meath, Iwerddon gyda’i gŵr a’i merch.

 

‘Cymru a’r mudiad yn erbyn y Rhyfel Mawr‘, gan Aled Eirug

Traddodwyd y ddarlith hon yn Gymraeg. Cliciwch yma i’w darllen.
Cliciwch yma i ddarllen cyfieithiad Saesneg ohoni. 

Mae’r ddarlith hon yn trafod pha mor eang oedd y gwrthwynebiad i’r Rhyfel Mawr yng Nghymru, a pha mor eang a grymus oedd y mudiad i atal y Rhyfel. Trafodir pha mor ddylanwadol oedd y gwrthwynebiad i’r Rhyfel ar sail crefyddol, ac yn nhraddodiad heddwch Anghydffurfiaeth. I ba raddau chwalwyd hwnnw gan ddylanwad Lloyd George, ac i ba raddau unwyd y gwrthwynebiad crefyddol gyda gwrthwynebiad ar sail gwleidyddol, dan arweiniad y Blaid Lafur Annibynnol a Marcswyr Ffederasiwn y Glowyr.

Bydd y ddarlith hefyd yn ystyried beth oedd gwaddol y gwrthwynebwyr hyn, wrth i’r mudiad heddwch gynyddu yn y cyfnod hyd at yr Ail Rhyfel Byd.

Mae’r Dr Aled Eirug wedi cyhoeddi dau lyfr ar y gwrthwynebiad i’r Rhyfel Mawr, sef Gwrthwynebwyr Cydwybodol yn y Rhyfel Mawr (2017) a Opposition to the Great War (2017).  Bu’n newyddiadurwr am 25 mlynedd, gan gynnwys 11 mlynedd fel Pennaeth Newyddion BBC Cymru (1992-2004), a bu’n ymgynghorydd cyfansoddiadol i Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol (2006-11). Bu’n gadeirydd Cyngor Ffoaduriaid Cymru (2006-2011), ac yn gadeirydd y Cyngor Brydeinig yng Nghymru (2013-2017). Mae’n ddarlithydd yng Nghanolfan Academi Morgan ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn aelod o Fwrdd Cynnwys Ofcom (2015-).

 

‘The Poetry of the People: Ivor Novello, Music Halls and the First World War’, gan Phil Carradice

Traddodwyd y ddarlith hon yn Saesneg. Cliciwch yma i’w darllen yn y Saesneg.
Cliciwch yma i ddarllen cyfieithiad Cymraeg ohoni.

Gellir dadlau mai’r Rhyfel Byd Cyntaf oedd y rhyfel lythrennog gyntaf mewn hanes – yn rhannol oherwydd Deddf Addysg 1870; yn rhannol oherwydd y ddiddordeb mawr mewn cerddi  a chaneuon neuaddau cerdd; ac yn rhannol oherwydd caneuon teimladwy megis “Keep the Home Fires Burning” gan Novello. Roedd pobl gyffredin yn darllen, canu, ac yn ysgrifennu trwy gydol y brwydro a thrwy’r cyfnodau cythryblus. Bydd y sgwrs hon yn canolbwyntio ar ddylanwad a bywyd Ivor Novello gan archwilio effaith Neuaddau Cerdd ar gymdeithas yn ystod ac wedi’r rhyfel.

Mae Phil Carradice yn fardd, nofelydd a hanesydd sydd wedi ysgrifennu sawl cyfrol ar gerddi’r Rhyfel Byd Cyntaf. Ei gyfrol ddiweddaraf yw Masada, hanes cyflafan y Rhufeiniaid yn erbyn y Zealots a’r Sicarii yn y ganrif gyntaf OC. Mae’n cyfrannu’n halaeth at ddarllediadau ar y teledu a’r radio, ond byddai’n ddigon hapus rhoi’r gorau iddi am un cap rygbi i Gymru!

 

Nôl i Estyn yn Ddistaw