Dewislen
English
Cysylltwch

Eleni, mae gwahoddiad i bobl ifanc rhwng 7 a 25 oed, o bob cwr o’r byd, gymryd rhan yn ‘Dwlu ar y Geiriau’ (Love the Words), cystadleuaeth ar-lein i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas.

Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw lawrlwytho’r paragraffau agoriadol o Dan y Wenallt gan Dylan Thomas isod, datgysylltu’r geiriau, eu defnyddio i greu eich cerdd eich hun, tynnu ffotograff a’i rannu gyda’r byd ar Twitter. Defnyddiwch yr hashnodau #LovetheWords a #DyddDylan er mwyn i bawb weld eich cerdd! A defnyddiwch yr un hashnodau i weld cerddi pobl eraill hefyd.

Mae’r gystadleuaeth ar agor i geisiadau rhwng 9.00am ddydd Mercher 15 Mawrth a hanner nos ddydd Gwener 5 Mai. Gall y cerddi fod yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Caiff nifer fach o geisiadau eu dewis gan Hannah Ellis, wyres Dylan Thomas, a’u harddangos ar ei gwefan Discover Dylan Thomas, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, sef dydd Sul 14 Mai.

Ydych chi’n dwlu ar y geiriau? Yna ymunwch â ni i ddathlu eu hud a’u lledrith ar #DyddDylan eleni!

www.discoverdylanthomas.com

Mae’r llun ‘Love the Words’ gan yr artist Lee R. Jones

'Dwlu ar y Geiriau' Love the Words - Taflen Cymraeg
Iaith: WelshMath o Ffeil: PDFMaint: 7615KB
Love the Words - English Flyer
Iaith: EnglishMath o Ffeil: PDFMaint: 7619KB
Dylan Thomas - Dan y Wenallt
Iaith: WelshMath o Ffeil: PDFMaint: 39KB
Dylan Thomas - Under Milk Wood
Iaith: EnglishMath o Ffeil: PDFMaint: 48KB
Nôl i Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas