Dewislen
English
Cysylltwch
Mae’r dyddiad cau i ymgeisio ar gyfer y cyfle hwn bellach wedi pasio.

Llenwch y ffurflen gais digidol hon. Gellir lawrlwytho fersiwn print bras a dyslecsia gyfeillgar isod hefyd. Bydd y ffurflen gais yn gofyn am y canlynol:

  • Bywgraffiad awdur – yn cynnwys eich profiadau proffesiynol a chyhoeddiadau (dim mwy na 200 gair).
  • Datganiad yn amlinellu eich amcanion a’ch nodau fel awdur Cymreig, eich ymrwymiad i ddatblygu yn broffesiynol a sut y bydd lle ar y cynllun Awduron wrth eu Gwaith yn cefnogi hyn (dim mwy na 300 gair).
  • Amlinelliad byr o brosiect cyfredol, neu waith ar y gweill, yn amlinellu sut mae’ch gwaith yn cynnig persbectif newydd i ysgrifennu yng Nghymru (dim mwy na 200 gair).

Gofynnwn i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ddienw hefyd, sydd ar gael yma.

Dim ond ceisiadau digidol a dderbynnir. Anfonwch eich cais naill ai drwy’r ffurflen ddigidol, neu ar e-bost er mwyn cyflwyno fersiwn print bras neu ddyslecsia gyfeillgar:
writers@hayfestival.org. Ni fydd ceisiadau a anfonir drwy’r post a cheisiadau hwyr yn cael eu hystyried.

I ddarganfod mwy am y broses ymgeisio a dethol, ac i gael trosolwg manylach o’r rhaglen, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin.

Ffurflen Gais Dyslecsia Gyfeillgar a Phrint Bras
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 28KB
Nôl i Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli