Cefnogaeth ariannol:
Gall ysgolion, llyfrgelloedd, a cymdeithasau wneud cais am ymweliad trwy lenwi’r ffurflen isod, yna trafodir yr holl fanylion yn uniongyrchol gyda Nia.
Bydd Nia yn trafod ffi yn uniongyrchol â’r ysgol, mae canllawiau am ffi gweithdy ar gael ar ein hadran Cyngor i Drefnyddion Digwyddiadau. Gellir gwneud cais am hyd at 50% o ffi awdur trwy ein cynllun nawdd, Ysbrydoli Cymunedau. Mae dyddiad cau misol ar gyfer gweithgaredd sydd wedi’i drefnu ddeufis ymlaen llaw. Unwaith bydd dyddiad wedi ei gadarnhau, ewch draw i’r adran Cronfa Ysbrydoli Cymunedau am ragor o fanylion ac i wneud cais am nawdd.
Beth sy’n digwydd nesaf:
Bydd eich cais yn cael ei anfon ymlaen at Nia, a bydd yn cysylltu â chi yn uniongyrchol i drafod natur y gweithgaredd, i drefnu dyddiad ac i drafod y ffi.
Noder os gwelwch yn dda: Oherwydd galw uchel am weithdai, ni ellid sicrhau bydd eich cais yn llwyddiannus, ond gallwn drafod opsiynau eraill o sut y gellid rhannu grym hudolus geiriau gyda’ch grŵp o blant a phobl ifanc.
Am ragor o wybodaeth am yr hyn allwn gynnig i blant a phobl ifanc ewch i’r dudalen Beth all Llenyddiaeth Cymru ei wneud i chi.
Cysylltwch â barddplant@llenyddiaethcymru.org os oes gennych chi unrhyw gwestiynnau.