Dewislen
English
1. Sut i Wella Ansawdd eich Cais

Nod cynllun nawdd Cronfa Ysbrydoli Cymunedau yw cefnogi digwyddiadau llenyddol o’r radd flaenaf, efallai na fyddent yn digwydd fel arall. Mae’r galw bob amser yn uwch na’r cyllid sydd ar gael, sy’n golygu nad yw pob cais yn llwyddiannus hyd yn oed os ydynt yn gymwys. Rydyn ni’n chwilio’n arbennig am ddigwyddiadau:

  • Sy’n arloesol, yn ddiddorol ac o ansawdd uchel.

Gall diffiniad hyn fod yn eang iawn, ond rydyn ni’n awyddus i noddi sefydliadau sy’n gallu dangos eu gallu i ddenu cynulleidfa i ddigwyddiad sydd wedi’i drefnu’n dda ac sydd â rhaglen o awduron addas.

  • Sy’n llenwi bwlch mewn darpariaeth.

Rydyn ni’n awyddus i weld digwyddiadau sy’n cyrraedd cynulleidfaoedd neu ardaloedd sy’n cael eu tan-wasanaethu gan weithgarwch llenyddol yn hanesyddol .

  • Sy’n hyrwyddo gyrfa a datblygiad yr awdur(on).

Mae hyn yn cynnwys talu eich awduron yn deg, gan gynnwys costau teithio a threuliau cysylltiedig. Efallai yr hoffech ystyried p’un a all yr awdur werthu ei lyfrau yn y digwyddiad.

  • Sy’n gynrychioladol ac yn gynhwysol.

Rydyn ni’n hoff o weld rhaglenni digwyddiadau sy’n gynhwysol ac yn gynrychioliadol – gan sicrhau cydbwysedd o ran rhywedd, awduron o ystod eang o oedrannau, awduron Du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig, awduron sy’n byw gydag anableddau neu gyflwr iechyd hirdymor, awduron o gefndiroedd incwm isel ac awduron o’r gymuned LHDTC+. Wrth gwrs, rydyn ni hefyd yn disgwyl i’r Gymraeg gael ei chynrychioli a’i pharchu.

Yn ogystal ag ystyried cynwysoldeb wrth raglennu’r digwyddiadau, rydyn ni’n awyddus i gefnogi digwyddiad sydd wedi ystyried anghenion hygyrchedd eu darpar gynulleidfaoedd ac sydd wedi cael eu rhaglenni i fod mor gynhwysol â phosib. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys ystyried amser, lleoliad, safle, a phris tocyn y digwyddiad, yn ogystal â’r cynnwys.

  • Sy’n ystyried yr effaith ar yr amgylchedd.

Rydyn ni’n hoff o weld digwyddiadau lle mae’r trefnyddion wedi ystyried yr effaith y bydd y digwyddiad yn ei chael ar yr amgylchedd.  Er enghraifft, efallai y byddech chi’n ystyried dull teithio/pellter teithio’r awdur i’r digwyddiad, neu a oes modd cyrraedd y lleoliad gyda thrafnidiaeth gyhoeddus.

  • Sy’n debygol o apelio at gynulleidfa eang.

Er enghraifft, dylech wneud yn siŵr bod y digwyddiad yn cynnwys awdur sy’n apelio at y gynulleidfa rydych chi’n ceisio ei chyrraedd, a’ch bod yn defnyddio sianeli marchnata priodol i fynd ati’n rhagweithiol i annog cynulleidfaoedd newydd.

  • Sy’n cael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant y gynulleidfa.

Er enghraifft, a fydd y digwyddiad yn lleihau unigrwydd yn y gymuned drwy ddod â grŵp at ei gilydd i gymdeithasu a phrofi pleser llenyddiaeth? A yw pwnc y digwyddiad yn grymuso, ac a fydd yn annog y gynulleidfa i ddefnyddio llenyddiaeth i wella eu hiechyd a’u llesiant eu hunain?

  • Sy’n parhau i gael dylanwad ar ôl y digwyddiad.

Rydyn ni’n hoff o ariannu gweithgarwch a fydd yn cael effaith amlwg ar gyfer y dyfodol.  Gallai hyn fod mor syml â rhoi ffilm o’r digwyddiad ar-lein ar ôl y digwyddiad, neu eich bod yn ceisio cyllid i roi cynnig ar fath newydd o weithgaredd llenyddol rydych chi’n bwriadu tyfu cynulleidfa ar ei gyfer a dod yn ariannol gynaliadwy yn y dyfodol.

 

2. Cyfraddau Tâl i Awduron

Mae Llenyddiaeth Cymru mewn sefyllfa unigryw i allu arsylwi ystod tâl presennol ffioedd awduron sy’n cael ei chytuno rhwng awduron a hyrwyddwyr ar gyfer gweithdai, darlleniadau a darlithoedd yng Nghymru. Gall y rhain amrywio ar sail profiad yr awdur, a oes angen gwaith paratoi arbennig ymlaen llaw, ac os oes llawer o amser teithio i’r digwyddiad ac oddi yno. Mae Llenyddiaeth Cymru yn ymgynghori ar ffioedd priodol i awduron ar hyn o bryd. Yn y cyfamser, gallai’r cyfraddau canlynol gynnig arweiniad i drefnyddion wrth drafod ffioedd gydag awduron:

  • Darlleniad awdur, gyda sesiwn holi ac ateb i ddilyn (1 awr): £100 – £200
  • Sgwrs, darlith neu ddarlleniad (1 – 1.5 awr): £150 – £200
  • Awdur mewn ysgol am ddiwrnod: rhwng £300 – £400 am ddiwrnod cyfan / rhwng £175 – £250 am hanner diwrnod)

Canllawiau yn unig yw’r rhain. Gall cyfraniad Llenyddiaeth Cymru fod hyd at 50% o gyfanswm holl ffioedd yr awduron.

Gall Llenyddiaeth Cymru hefyd gyfrannu hyd at 50% o dreuliau teithio rhesymol awduron drwy’r cynllun Ysbrydoli Cymunedau. Unwaith eto, allwn ni ddim gorfodi cyfraddau rhesymol, ond drwy ein gwaith ni rydyn ni’n cefnogi costau tocynnau trên ymlaen llaw neu’n ad-dalu milltiredd ar 0.45c y filltir. Yn ein prosiectau ni, rydyn ni hefyd yn blaenoriaethu awduron lleol, ac yn annog defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus/teithio llesol, yn unol â’n cynllun gweithredu cynaliadwyedd.

Ni all Llenyddiaeth Cymru gyfrannu at dreuliau eraill fel llety o’r cynllun ariannu Cronfa Ysbrydoli Cymunedau.

 

3. Diogelu

Nod Llenyddiaeth Cymru yw diogelu lles plant ac oedolion sy’n agored i niwed wrth fynychu neu gymryd rhan yn y celfyddydau llenyddol. Mae Llenyddiaeth Cymru yn ymroddedig i arfer da sy’n amddiffyn plant ac oedolion sy’n agored i niwed. Yn ogystal, bydd Llenyddiaeth Cymru yn darparu arweiniad clir i’w bartneriaid a’i gleientiaid ar y camau y dylent eu cymryd, os oes ganddynt bryderon am ddiogelwch plant ac oedolion sy’n agored i niwed.

Mae gan Llenyddiaeth Cymru ei Bolisi a’i Weithdrefnau Diogelu mewnol, ac rydym yn hapus i’w rhannu er mwyn cefnogi eich sefydliad i ddatblygu eich gweithdrefnau diogelu eich hunain.

Ar gyfer y Gronfa Ysbrydoli Cymunedau, mae’n rhaid i drefnyddion gofio bod y digwyddiad yn perthyn i’r sefydliad sy’n ei drefnu, a’r sefydliad hwnnw sy’n gyfrifol am sicrhau bod digon o fesurau diogelu ar waith. Nid yw Llenyddiaeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am ddigwyddiadau a ariennir drwy’r cynllun.

Nôl i Cronfa Ysbrydoli Cymunedau