Cyhoeddwyd y gerdd Annwyl Blant yr Wcráin ar 24 Awst 2023 i nodi Diwrnod Annibynniaeth yr Wcráin.
Cyfansoddwyd y gerdd ar y cyd rhwng Bardd Plant Cymru, Casi Wyn, a disgyblion Ysgol Glan Morfa, Abergele. Cafwyd cyfle i ffilmio’r gerdd a cafodd y fideo ei arddangos am y tro cyntaf mewn digwyddiad arbennig yn dathlu prosiect Bardd Plant Cymru ar lwyfan y Senedd ar 6 Orffennaf 2023.
Mae’r gerdd i’w gweld mewn tair iaith â’r geiriau Wcreineg wedi eu cyfieithu gan Victoria Kamoza (gyda chefnogaeth Cyngor Ffoaduriaid Cymru) a’r Saesneg gan Eleri Richards.
Annwyl blant yr Wcráin,
dyma ein llythyr.
O gymru,
yn belydrau.
Ac yn hafau
gwell i ddod.
Annwyl blant yr Wcráin,
dyma ein geiriau.
Yn sawr ffrwythau,
brawddegau
o gysur.
A chariad.
Lilir dyffryn.
A chlychau glas,
daw eu deffro,
dychwel wna.
Ddyddiau hapusach,
lle bydd mêl yn llifo.
Ar glaw yn peidio.
Annwyl blant yr Wcráin,
yn eich ansicrwydd,
ein gobaith
yw y gwelwn oll ddyddiau.
Lle bydd heddwch.
Yn tywallt.
Fel cawod o aur.
Dros deulu’r byd.
***
Любі діти України,
Це наш лист до вас
Із Уельсу.
Випромінюючий тепло
і літні радощі, які ми обіцяємо
прийдуть незабаром.
Любі діти України,
Це Слова наші
наче солодкі запашні кавуни,
Несуть у собі
затишок до вас
Та співчуття.
Соняшник
І волошка
Знову посміхнуться,
Щасливі дні
Повернуться,
Та чарівні світанки прийдуть
На зміну буревіям.
Любі діти України,
В час зневіри
Ми маємо безмежну надію,
Що настане час,
Коли мир буде тримати
дітей світу
безпечно у своїх
золотавих обіймах.