Mae rhai yn mynd ar antur
i gopa’r mynydd mawr,
ac eraill fesul cragen ar y traeth.
Mae rhai yn mynd i’r jwngwl
yn chwys doman rhwng y dail.
Neu’n gwneud ôl traed
ar diroedd gwynion oer.
Ond does yr un antur
fel fy antur i.
Mynd i fyd gwirion bost
fesul odl,
fesul gair,
lle mae’r nos yn amryliw
a’r dyddiau yn aur.
Cymharu,
dyfalu,
dim stop ar yr holi.
Ar hap,
creu adwy arall
i fynd trwyddi.
Un antur fawr,
heb fap, nac arwydd.
Dim ond dilyn y geiriau.
Dychymyg yw’r trywydd.
Anni Llŷn