Bro Prydferthwch yw canlyniad prosiect Siarter Iaith mewn partneriaeth â gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol gogledd Cymru (GwE). Cyfansoddwyd y gerdd hon ar y cyd â disgyblion Blwyddyn 7 Ysgol Alun, yr Wyddgrug ym mis Ebrill 2022. Cynhaliwyd gweithdy geiriau a cherddoriaeth yn yr ysgol dan arweiniad Casi, a cafodd ei recordio ar y cyd â’r cerddor a’r cynhyrchydd Sion Trefor.
Dyma’r tiroedd
a greodd
ffos a nant,
dyma’r bryniau
roddodd
i’n telynnau dant
a cherddi ein
hynafiaid
sy’n cydio’n
nwfn y pridd
a’i nodau per
sy’n saff o’ch swyno
chithau
cyn bo hir.
Dyma’r tiroedd
a luniodd
saib a chân,
dyma’r angerdd
sy’n cynnau
nefol dân
a cherddi ein
hynafiaid
sy’n cydio’n
nwfn y pridd,
a’i nodau per
sy’n saff o’ch swyno
chithau
cyn bo hir.
Dyma Fro Prydferthwch.