Mae bardd plant Cymru rom bach fel James Bond,
ac fel fynta, fedra ninna ddim sefyll yn stond.
Mae’n beth llesol ail-gastio pob hyn a hyn
ac felly rhown groeso twymgalon i Casi Wyn!
Llongyfarchiadau Casi am fod y nesa’n y tsiaen!
Dyma air bach o gyngor gan y Bardd Plant ddaeth o’th flaen:
Bydd yn barod i grio, Bydd yn barod i chwerthin,
bydd yn barod i ddysgu am bob math o gynefin.
Mae pob dosbarth yng Nghymru yn byllau di-waelod
o hiwmor a haearn a bombast a swildod.
Paid a bod ofn troi’r byd ar ei ben.
Teimla’r cyffro sy’n disgleirio o bob ddalen wen.
Mae un syniad da yn werth pob deng mil syniad ciami.
Tynna goesau’r athrawon nes bod y craduriaid yn cochi!
Bydd yn wirion a thirion a chroyw a chlen
(hyd yn oed efo’r tacla sy’n deud bo’ chdi’n hen!)
Cadwa amball i dric yng ngwaelodion dy sach.
Cofia holi cyn cychwyn ymhle mae’r tŷ bach!
Trïa dwrio dan yr wyneb, a bydd yn garedig,
a hynny i chdi dy hun yn enwedig.
Rwyt ti’n wych! Rwyt ti’n giamstar! Felly cofia – ymlacia!
(Ond ti’n bownd o fynd ar goll; felly plîs, gwgyl mapia.)
Paid a phoeni gormod am rwtsh fel sillafu.
Job yr athrawon ydi poeni am hynny!
Ond cofia drin bob gair fel rhywbeth gwerth ei anwylo
A llunia dy gerddi i fod yn arfau’n mewn dwylo.
A chofia ti’m yn athro na’n wleidydd, na’n sant;
ti’n gymaint mwy na hynny, Casi. Chdi di’r Bardd Plant.
Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru 2019-2021