Cyfansoddwyd y gerdd hon ar y cyd â disgyblion ysgolion uwchradd Canolbarth y De, mewn partneriaeth â Consortiwm Canolbarth y De, er mwyn cefnogi eu gweithgaredd Siarter Iaith.
Darlunwyd y gerdd yn gelfydd gan yr artist Efa Blosse-Mason.
O fewn y dyddiau du
cawn gip ar y goleuni,
gollyngwng ein harfau
er mwyn sicrhau heddwch.
Planwn goed o’r newydd,
Lle bydd canghennau olewydd
Yn ymestyn
I’n cysgodi
A’n cadw’n ddiogel,
Bydd gwreiddiau rhain
yn fodd
I’n cryfhau.
Dyma awr y datgan
Bod yna well cân
I’w chanu
Na sŵn yr anrhefn
A’r aflonyddu.
Agorwn ein calonnau
I dawelwch y goleuni –
Agorwn ein breichiau
I’ch croesawu
I Gymru.