Criw Creu
Mae Criw Creu yn brosiect cenedlaethol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol sy’n cael ei arwain gan Theatr Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth gan Llenyddiaeth Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.
Yn 2022 bu disgyblion pedair ysgol uwchradd yn rhan o’r prosiect, sef Ysgol Bro Pedr, Criw Hwb Ysgol Tryfan Bangor, disgyblion Sgiliau Bywyd Ysgol Penweddig Aberystwyth a chriw o Ysgol Plasmawr, Caerdydd.
Cynhaliodd Casi Wyn, Bardd Plant Cymru, weithdai gyda’r disgyblion i greu darnau gwreiddiol o farddoniaeth. Cafwyd gweithdai drama gan Sian Elin, Cydlynydd Cyfranogi Theatr Genedlaethol Cymru; gweithdai animeiddio gyda Sioned Medi Evans o gwmni SMEI a hefyd recordio cerddoriaeth gyda cherddorion a swyddogion gwych yr Urdd, Marged Gwenllian, Osian Rhys, Caryl Griffiths, Seimon Thomas a Lewys Wyn Jones.
Dyma fideos a grëwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru i arddangos gwaith creadigol y disgyblion a dathlu’r prosiect: