Ym mis Rhagfyr 2022, cafwyd cyfle i ddod a Casi Wyn, Bardd Plant Cymru, a Áine Ní Ghlinn, Laureate na nÓg Iwerddon at eu gilydd yng Nghanolfan Ysgrifennu Creadigol Tŷ Newydd yn Llanystumdwy ar gyfer encil creadigol. Cyfansoddwyd pedair cerdd newydd, dwy yn y Gymraeg gan Casi, a gafodd eu cyfieithu i’r Wyddeleg gan Áine, a dwy gerdd Gwyddeleg wedi eu cyfieithu i’r Gymraeg gan Casi.
Mae rhagor o fanylion am brosiect Laureate na nÓg ar gael yma.