Cyfansoddwyd y gerdd hon gyda dosbarth Blwyddyn 6 2022-23 Ysgol Hamadryad, Bae Caerdydd ar gyfer digwyddiad arbennig Bardd Plant Cymru a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2023.
Gerddi Grange,
gwlyptiroedd,
dociau
a straeon
yw nodau’n halawon.
Yn fan hyn
plannwn hadau
Cymuned!
Yn flasau ar fodiau,
yn wefr o amrywiaeth
pob dydd
i’w mwynhau!
Cawn ddyfrio’r tir
a gofal,
hwyl,
parch a phosibilad!
Mae’r byd yn ymestyn o’n blaenau,
ond yn fan hyn
mae’n cartref.