Dewislen
English
Cysylltwch

Dau Elyn

 

Bu dau yn elynion mor ddiymwâd,

Ond er eu rhyfela di-ben-draw,

I’r ddau lanc, cae Pen-rhos oedd maes y gad.

Roedd codi dwrn yn haws na chodi llaw

A’u rhyfel personol yn rhuddo’r aer,

Pob un tacl fel llafnau’n creithio’r llawr,

Daeth yn haws torri asgwrn na thorri gair;

Ond ar y gorwel roedd y rhyfel mawr…

Yn lle anelu gwn, gosodwyd pêl,

A gosod dwy helmed i ffurfio gôl,

A’r maes yn barod am y frwydr, dod a ddêl,

A’r awr fawr: chwythu’r chwiban, pàs yn ôl.

O weld gelynion yn rhannu’r un cae

All dathlu gôl droi’n gadoediad rhwng dau?

 

 

Aneirin Karadog

 

 

Straeon Gorau’r Byd

 

Mae plant Ceredigion a phlant Japan

A phlant Gwlad y Zwlw a phlant Gwlad Pwyl,

Fel plant bach Canada a Kazakhstan

Yn y byd ’ma dim ond i geisio cael hwyl,

Heb hidio sut mae’r byd yn dal i droi

Nac am eiriau diflas rhyw ddyn mewn siwt

Na pham bod rhai o blant y byd ’ma’n ffoi

Na pham bod yr economi’n mynd yn ffliwt.

Ond cwyd eu clustiau ag amser stori,

Clywir blas geiriau wrth fwyta’r awyr,

Carlama’r gwir yn gloch yn nhref Atri,

Beth ddaw o’r dywysoges bag papur?

O dan dy swyn mae’r gynulleidfa’n fud

Wrth it adrodd straeon gorau ein byd.

 

 

Aneirin Karadog

Nôl i Cerddi Bardd Plant Cymru