Dewislen
English
Cysylltwch

I gyfarch Llŷr Titus

 

O Gae Du i’r gofod,

a’r awen ym mhlyg ei wasgod,

aeth hwn bob cam i’r sêr.

 

A’i ddychymyg yn ddi-ddisgyrchiant

wrth gynnig mwy nac antur plant,

aeth hwn bob cam i’r sêr.

 

Yn gymêr i’w gorun,

gwnaeth i ni chwerthin

a theimlo’r hiraeth.

 

Gwnaeth i ni berthyn.

 

Heddiw, cawn ddathlu,

a’i godi eto,

bob cam i’r sêr.

 

 

Anni Llŷn

 

 

 

I gyfarch Siân Lewis a Valériane Leblond

 

Mae hud a lledrith y Mabinogi

wedi dianc eto o’r Pair Dadeni.

 

Dwy wedi cyd-blethu’r darluniau.

Un fesul gair,

a’r llall ym mysg lliwiau.

 

A’u casglu’n drysor

wrth wely plentyn,

i adleisio’n y nos

a lliwio pob cyntun.

 

Pob gair a phob lliw

yn creu breuddwydion,

yn rhoi ias ifanc i hen hanesion.

 

 

Anni Llŷn

Nôl i Cerddi Bardd Plant Cymru