Fel Un
Lluniwyd y gerdd ‘Fel Un’ gan aelodau Senedd Ieuenctid Cymru a Bardd Plant Cymru, Casi Wyn mewn gweithdy yn mis Rhagfyr 2022. Mae’r gerdd amlieithog yn dathlu Cymru mwy caredig a chydweithredol ac yn cynnwys y Gymraeg, Arabeg, Pwnjabi, Saesneg, Kinyarwanda a Sbaeneg.
Mae’r darluniad wedi ei greu gan yr artist Megan Elinor a bydd yn cael ei yn arddangos ym mhrif neuadd y Senedd yn ystod tymor y gwanwyn 2023.
Pwy ydym ni?
Togetherness sy’n ysbrydoli.
Hapusrwydd, felicidad
a mwynhad
ar draws y byd,
lledaenwn impuhwe,
carwn with respect a pharch
na nibyiza
in between the gwrando a’r siarad,
sunna te bolna,
Ussi! We are! Yn afon gref o angerdd
نرسم المستقبل
Fel un.