Blantos Cymru, a welwch chi’r glaw?
Fy nagrau yw’r rhain, yn disgyn mewn braw.
Blantos Cymru, a glywch chi fy sgrech?
Mae’r salwch yn taenu i bob man fel brech.
Blantos Cymru, rwy’n peswch, yn tagu –
yr holl fwg a’r plastig, mae’n anodd anadlu.
Blantos Cymru, rwy’n sgrechian mewn panig –
rwy’n hiraethu am yr iâ a orchuddia yr Arctig.
Blantos Cymru, a deimlwch chi’r gwres?
Mae’n llosgi fy nghroen, dod yn nes ac yn nes.
Blantos Cymru, a fedrwch chi addo
bod yn wahanol – eich bod chi am drio?
Blantos Cymru, a wnewch chi fy ngwarchod?
Mae amser o hyd i ddad-wneud y difrod.
Blantos Cymru, os y gweithwch ynghyd,
fe rof i chi’r cwbl – fe rof i chi’r byd.
Casia Wiliam