Dewislen
English
Cysylltwch

Mae llyfr gen i’n fy stafell

Sy’n well na’r lleill i gyd,

Mae’n hen fel craig, mae’n newydd sbon –

Mae hon yn gyfrol hud.

 

Ni allaf fyth, fyth orffen

Ei stori fer fawr hir,

Wrth droi’r dudalen olaf

Mae ar ei hanner, wir!

 

Mae’r dyddiad ar y ddalen flaen

Yn dweud 1961,

Ond mae’r dalennau oll i gyd

Fel newydd, wir, bob un.

 

Mae’r enw ar y meingefn

Yn newid fesul awr,

A lliwiau llafar, wir i chi,

I’w clywed ar y clawr.

 

Ac yn y cefn ar ddalen

Heb arni air na llun,

Darllenaf innau ’fory

Fy stori fi fy hun.

 

 

Eurig Salisbury

Nôl i Cerddi Bardd Plant Cymru