Gan mlynedd yn ôl
gwelodd un bod diffyg yn y darlun.
Gwelodd gam, dagrau mam a boliau gwag.
Gwelodd ddwylo bychain yn aros am law
ac yn lle edrych draw
gwelodd ei chyfrifoldeb,
gwelodd ei rhan hi o’r ateb:
a gweithredodd un i ail-lunio’r darlun.
Ac yn eu tro daeth y darnau bach ynghyd;
yn jig-so o ofal tyner syth o’r crud.
Daeth datganiad ac adduned,
daeth lle i chwarae
daeth awyr agored
daeth llaeth a maeth
a chariad o bob cyfeiriad.
Hawl i ffynnu
a hawl i fwy na hynny.
Yn raddol daeth y darlun yn gliriach
y dagrau yn sychach
a’r boliau yn llawn.
Ond heddiw o hyd
mae’r jig-so yn fregus,
mae’r corneli’n bygwth plygu
y llun yn pylu
ac ambell i ddarn yn mynnu
mynd ar goll.
Mae’r cwbl yn ein gofal ni yn awr,
pob un darn bach, a’r darlun mawr.
Casia Wiliam