Dewislen
English
Cysylltwch

Mae’r Urdd yn naw deg,

Wel, wel, chware teg!

Mae’n rhedeg a dawnsio

A hithau’n naw deg!

 

Does angen na ffon

Na zimmer ar hon,

Ni welais neb sioncach

Na’r hen lodes lon.

 

Mae’n canu, llefaru,

Mae’n hoff o gystadlu,

Mae hefyd yn ffrindiau

 phob un yng Nghymru.

 

Mae ganddi lond ceg,

Oes wir, chware teg,

O’i dannedd ei hunan,

A hithau’n naw deg!

 

Pan fydda’ i’n hen,

Os bydda’i mor glên

A heini â honno,

Mi ro’i glamp o wên!

 

 

Eurig Salisbury

Nôl i Cerddi Bardd Plant Cymru